Shooter (2007) Dydd dial dyn y gwn
Y sêr
Mark Wahlberg; Michael Peña; Danny Glover; Kate Mara; Ned Beatty; Elias Koteas
Cyfarwyddo
Antoine Fuqua
Hyd
124 munud
Adolygiad gan Gwion ap Rhisiart
Sut ffilm?
Drama llawn cyffro am gynllwynion gwleidyddol gan gyfarwyddwr Training Day sy'n amlwg dan ddylanwad ffilmiau fel The Bourne Identity, First Blood a Commando a digwyddiadau hanesyddol fel y damcaniaethau cynllwyno yn dilyn llofruddiaeth JFK a thrychineb 9/11.
Y stori
Bobby Lee Swagger (Wahlberg) oedd y saethwyr gorau welodd byddin yr Unol Daleithiau erioed a'r unig filwr yn y Byd allai saethu targed i'r centimedr agosaf o dros filltir i ffwrdd!
Yn ystod cyrch milwrol a aeth o chwith yn Ethiopia cafodd ei bartner ei ladd ac fe fradychir Swagger gan y fyddin a hynny'n ei orfodi i ymladd am ei fywyd a dianc ar ben ei hun.
Yn dilyn ei ddychweliad i'r America mae'n ymddiswyddo i fyw fel meudwy.
Hynny yw, nes bo'r Cyrnol Isaac Johnson (Glover) yn ymweld ag ef gyda gwybodaeth am gynllwyn i lofruddio'r Arlywydd drwy ddefnyddio saethwr o bellter maith.
Yn awr mae'r awdurdodau angen arbenigedd Swagger unwaith eto - i geisio rhagweld o ble byddai'r ymosodiadau yn debygol o ddigwydd.
Er iddo gasáu ei lywodraeth am ei adael yn Ethiopia, mae'n cael ei ddarbwyllo i gymryd y swydd er mwyn achub yr Arlywydd...ond mae'n cael ei fradychu unwaith yn rhagor ac yn gorfod dianc am ei fywyd.
Y canlyniad
Er y benthyca hael o ffilmiau eraill ac er bod y stori yn un hawdd ei rhagweld ar adegau, mae hon y glamp o ffilm ym mhob ystyr o'r gair.
Cyffro diddiwedd sy'n eich sugno i mewn o'r olygfa agoriadol yn Ethiopia ac yn eich gwefreiddio tan yr eiliadau olaf.
Mae rhai o'r golygfeydd saethu, yn enwedig ar y dechrau, yn syfrdanol.
Yr un modd, mae coreograffi'r ymladd yn anhygoel - ac yn sicr wedi gosod cynsail i ffilmiau cyffro y dyfodol.
Rhai geiriau Pan ofynnir i Swagger beth sy'n ei gymell i ddial ar ei elynion - wedi iddynt ddinistrio ei holl fywyd - ei ateb syml yw, " Fe saethon nhw fy nghi."
Perfformiadau Mae perfformiad Wahlberg yn bwerus a chredadwy- fel mae wastad yn llwyddo bron ym mhob ffilm mae'n actio ynddi.
Dyw ei actio byth dros ben llestri, ond eto mae ei lonyddwch yn eich mesmereiddio'n llwyr.
Anaml mae'n cymryd cam anghywir, a braf oedd gweld ei enwebu am Oscar ar gyfer The Departed.
Cafwyd actio ychydig yn wan gan Danny Glover yn fel y Cyrnol - yn goractio braidd, a rhoi gormod o bwyslais ar gael llais dyfnach a garwach na'i lais arferol.
Elias Koteas yn arbennig o ddieflig fel gwas sadistaidd y Cyrnol.
Darnau gorau Heb os, mae'r olygfa agoriadol ffrwydrol lle mae Swagger a'i bartner yn saethwyr cudd yn nghanol tirwedd garw Ethiopia, yn wirioneddol drawiadol.
Mae'r olygfa gyntaf yn anialdir Affrica yn gwrthgyferbynnu'n dda iawn gydag un o'r rhai olaf ar ben mynydd llawn eira yn y Rockies.
Ambell i farn Meddai Rolling Stone: "Mae angen hygoeledd o'r radd flaenaf ac mae rhesymeg yn cymryd mwy fwledi na'r dynion drwg. Ond er hyn mae Shooter yn yn cyrraedd y safon fel ffilm gyffro ffrwydrol sy'n eich tynnu allan o realiti."
Nid oedd Andrew Pulver o'r Guardian yn meddwl llawer o Shooter gan ddweud: "Er ei fod (Wahlberg) wastad yn plesio, mae'r ffilm o'i amgylch yn rhy dwp er ei lles ei hun."
Gwerth ei gweld?
Dwi heb deimlo dwy awr yn hedfan mor gyflym yn y sinema ers amser, sy'n deyrnged i amseru celfydd a storio tyn.
Mae'n sicr y math o ffilm y byddai o fantais ei gweld ar sgrîn fawr iawn.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|