St Trinian's (2008) Bywyd newydd i hen ysgol
Y Sêr: Rupert Everett, Colin Firth, Russell Brand, Gemma Arterton, Talulah Riley.
Cyfarwyddwyr: Oliver Parker, Barnaby Thompson.
Ysgrifenwyr: Piers Ashworth, Nick Moorcroft.
Hyd: 101 munud.
Adolygiad Shaun Ablett
Dyma'r chweched ffilm am ysgol ferched St Trinian's. Gwnaed y ffilmiau cyntaf nôl yn y pump a'r chwe degau ac yn y ffilm ddiweddaraf hon rhaid i'r merched i gyd godi arian i arbed yr ysgol rhag cau am byth.
Mae'r ffilm yn dechrau gyda merch newydd, Annabel Fritton (Talulah Riley) yn cyrraedd yr ysgol gyda'i thad, Carnaby Fritton (Rupert Everett), brawd y brifathrawes, Camilla Fritton (Rupert Everett eto).
Arweinir Annabel o gwmpas yr ysgol gan y brif ferch, Kelly (Gemma Arterton), sy'n ei chyflwyno i'r gwahanol grwpiau o ferched sydd yno gan gynnwys Emos, Posh Totty, Geeks a'r flwyddyn gyntaf.
Er nad yw Annabel yn cael amser da ar y dechrau mae'n dod yn un ohonyn nhw cyn y diwedd ac yn ymuno a chynllwyn y merched gyda help Flash Harry (Russell Brand) i ddifetha cynlluniau gweinidog addysg y Llywodraeth, Geoffrey Thwaites (Colin Firth), i gau'r lle.
Mwynheais y ffilm hon er nad oeddwn yn edrych ymlaen rhyw lawer at ei gweld - ond yr oedd llawer o olygfeydd doniol a difyr iawn a'r cyfarwyddwr yn llwyddo i drosglwyddo'r ysgol a'i merched rhyfeddol i ganrif newydd.
Cafwyd perfformiadau da iawn gan y prif gymeriadau i gyd, gan gynnwys Gemma Arterton, ond heb os, Russell Brand sydd orau a fwyaf naturiol fel Flash Harry.
Mae hon yn ffilm y bydd pawb dros 14 oed yn ei mwynhau gan ei bod yn cynnwys nifer o themâu a phroblemau y gall pawb uniaethu â hwy. Ffilm ddoniol iawn.
Darparwyd yr erthygl hon yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 91Èȱ¬ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
Cysylltiadau Perthnasol
Hanes St Trinian's
Adolygiad Carys Mair Davies
|