Apocalypto (2007) Ddaw yna ffilm well eleni?
Y sêr
Rudy Youngblood; Dalia Hernadez; Jonathan Brewer
Cyfarwyddo
Mel Gibson
Hyd
139 munud
Adolygiad Gwion ap Rhisiart
Sut ffilm?
Mae'n amhosib trafod y ffilm epig hon heb gyfeirio at yr ymosodiad geiriol gwrth-Semitig wnaeth y cyfarwyddwr, Mel Gibson, dan ddylanwad alcohol yn Haf 2006.
Mae'n drueni i hyn ddigwydd, gan i'r sylw negyddol daflu cysgod dros achlysur rhyddhau'r ffilm sy'n epig ym mhob ffordd.
Cafodd ei gwneud gydag arian personol Gibson a go brin y byddai wedi'i gwneud o gwbl oni bai am hynny o ystyried ei thema a'r ffaith ei bod yn iaith frodorol canolbarth America, y Mayan.
Y stori
Mae'n gyfnod yr Asteciaid yng nghanolbarth America - cyn i'r Sbaenwyr gyrraedd - a gŵr ifanc o'r enw Jaguar Paw (Youngblood) yn cael ei herwgipio ar ôl i'w lwyth gael ei chwalu gan ormeswyr.
Arweinir ef ac eraill i ddinas lle mae math o wareiddiad newydd.
Gan fod afiechyd yn graddol ladd nifer o'r dinasyddion, mae'r gwÅ·r ifainc yn cael eu cynnig yn offrwm i'w duwiau mewn ymgais i atal yr afiechyd.
Llwydda Jaguar i ddianc rhag cael ei aberthu ond yn dal i orfod ymladd am ei fywyd cyn dychwelyd i'w gartref yn y goedwig.
Y canlyniad
Mae'r sylw i fanylder yn rhyfeddol a'r effeithiau arbennig yn syfrdanol.
Yn ei hanfod mae'r stori yn un glasurol a seml ond llwydda'r cyfarwyddwr i gynnwys cymaint am y natur ddynol o fewn y ddwy awr a hanner, mae'n amhosib peidio cael eich hudo'n llwyr gan y stori, y cymeriadau, y cyffro di-baid a'r effeithiau trawiadol.
Rhaid rhybuddio fod hon yn ffilm arswydus o dreisgar - torri pennau ac yn y blaen - ond ni chredaf fod y cyfarwyddwr yn gor-bwysleisio'r trais - yn wahanol i ffilm ddiwethaf Gibson, The Passion of the Christ.
Rhai geiriau
• "Fi yw Jaguar Paw! Hon yw fy nghoedwig i! Bydd fy meibion, a'u meibion hwythau yn hela yma wedi i mi fynd."
Ambell i farn
• "Mae (Apocalypto) yn rhoi Mel Gibson yng nghategori yr athrylith gwallgof bron, tebyg iawn i Werner Herzog," meddai Peter Bradshaw yn y Guardian.
• "Er nad yw heb ei gwendidau, yn sinematig dyma ffilm orau Gibson hyd yn hyn ac mae'r neges ysbrydol yn llai o bregeth na'r ddisgwyl," meddai channel4.com
Perfformiadau
• Mae perfformiad Rudy Youngblood yn gwbl wefreiddiol o ystyried mai hon yw ei ffilm gyntaf.
• Wrth dynnu sylw at berfformiad Youngblood, nid wyf yn awgrymu ei fod yn rhagori ar y gweddill gan fod actio'r cast cyfan yn rhyfeddol o realistig a chredadwy.
Darnau gorau
• Yr olygfa o ben y pyramid yn paratoi i ddienyddio Jaguar Paw yn arbennig o effeithiol a chyffrous.
Mae'r effeithiau mor anhygoel, roeddwn i yn teimlo'n chwil wrth edrych dros y dibyn!
Nid oedd modd dychmygu os oedd yn mynd i ddianc neu beidio.
Gwerth ei gweld?
Campwaith sinematig heb os nac oni bai, sy'n eich llusgo ar siwrne ryfeddol ac emosiynol heb lacio gafael tan y diwedd.
Er bod un mis ar ddeg a hanner yn weddill o 2007 mae'n debyg fy mod wedi gweld ffilm orau'r flwyddyn yn barod.
|
|