Just Like Heaven (2005) Chwilio am ysbrydoliaeth . . .
Y sêr
Reese Witherspoon, Mark Ruffalo, Donal Logue, Dina Spybey, Ben Shenkman, Jon Heder, Ivana Milicevic
Cyfarwyddo
Mark Waters
Sgrifennu
Peter Tolan, Leslie Dixon yn dilyn nofel o'r enw, If Only it Were True
Hyd
96 munud
Sut ffilm
Rhamant ysbrydol - yn hytrach nag ysbrydoledig. O leiaf mae yna ysbryd ac mae yna syrthio mewn cariad.
Y stori
Mae Elizabeth Masterson (Reese Witherspoon) yn feddyg hynod o gydwybodol yn cael ei gorweithio i'r eithaf mewn ysbyty yn yr Unol Daleithiau. Nes ei bod yn cael ei lladd mewn damwain ffordd.
Yn ŵr gweddw mewn galar mae David Abbott (Mark Ruffalo yn symud i fyw i'w fflat lle mae ysbryd Elizabeth yn dal i hofran o gwmpas y lle heb sylweddoli ei bod wedi marw.
Wel, dim ond rhyw fath o farw ydi o gan mai gorwedd fel cabatsien ar wely ysbyty y mae ei chorff yn disgwyl i rywun benderfynu a ddylid tynnu'r plwg neu beidio.
Wedi peth cicio a brathu mae cariad yn magu a'r cwestiwn yn codi sut mae cael corff ac ysbryd, cnawd ac enaid, yn un unwaith eto.
Y canlyniad Cyfle i feirniaid ac adolygwyr ddwyn i gof y ffilm Ghost a fu mor boblogaidd yn y Nawdegau. Ond er cyn ddifyrred yw Just Like Heaven nid yw'n cymharu o ran dwyster nac ansawdd.
Ffilm ysgafn sydd ond yn braidd gyffwrdd a phethau o bwys - megis beth i'w wneud a chorff sy'n cabatsio ar wely ysbyty.
Y casgliad yw, gyda llaw, ei bod hi yn werth cadw'r fflam ynghyn waeth pa mor ansicr yw pethau.
Yr anhawster mwyaf fu dod o hyd i ffordd o ddod a'r cyfan i fwcwl. Dydi'r golygfeydd gwallgof o wely'n cael ei ddwyn ddim yn argyhoeddi gwaetha'r modd.
Y darnau gorau Prysurdeb meddygol dechrau'r ffilm. Roeddech chi'n meddwl fod yr NHS yn gwegian - ewch i'r Merica i weld be ydi sbyty prysur!Darganfod nad oes sylwedd i ysbryd.Sawl llinell digon ffraeth.
Perfformiadau Ymylol yw popeth ond y berthynas rhwng Reese Witherspoon a Mark Ruffalo sy'n gweithio'n dda a'i gilydd.Dydi Jon Heder ddim yn llwyddo gyda'i ymdrech i greu 'seicig' difyr. Fydd o ddim yn cael ei gofio fel y mae Whoopi Goldberg yn cael ei chofio yn Ghost 1990.
Gystal â'r trelar?
Heb weld un.
Ambell i farn Fydd y cof am y gomedi hon ddim yn aros yn hir gyda chi yn ôl gwefan Saesneg y 91Èȱ¬ ond mae Witherspoon a Ruffalo yn cael eu canmol am ddod a rhywfaint o ddyfnder i stori ddigon meddal. Ciwt yn hytrach na ffraeth meddai'r Observer.Cyhuddir Witherspoon gan y Sunday Times o edrych a chyfarth fel chihuahua graenus. Dywed hefyd fod y stori yn ystrydebol ac annhebygol.
Ambell i air "Yr ydw i'n gweld rhywun," meddai David."Crewyd alcohol gan Dduw i fod yn olew cymdeithasol sy'n gwneud dynion yn ddewr a merched yn llac."Mae ganddi hi datŵ ar ei phen-ôl sy'n dweud 'All aboard' mewn tair iaith!"
Gwerth ei gweld?
Ydi - ond peidiwch a disgwyl yr un wledd ag a roddodd Patrick Swayze a Demi Moore inni yn 1990.
|
|