Dreamgirls (2007) Gwerth ei gweld - ddwywaith!
Y sêr
Jamie Foxx, Beyoncé Knowles, Eddie Murphy, Jennifer Hudson, Anika Noni Rose
Cyfarwyddo
Bill Condon
Sgrifennu
Bill Condon, Tom Eyen
Hyd
130 munud
Adolygiad Meleri Siôn
Mae'r ffilm Dreamgirls yn seiliedig ar un o sioeau cerddorol llwyddiannus Broadway yn 1981. Mae hefyd yn portreadu bywyd Diana Ross a'r Supremes - grwp llwyddiannus yn y Chwedegau.
Newidwyd enwau ac ati ond hanfod y ffilm yw hanes y grŵp yma.
Y Dreamettes oedd enw'r grŵp, sef Deena Jones (Beyonce Knowles), Effie White (Jennifer Hudson) a Lorrell Robinson (Anika Noni Rose), cyn iddynt gael y cyfle gan Curtis Taylor Jr (JamieFoxx) i ganu tu cefn i gantor o'r enw James "Thunder" Early (Eddie Murphy).
Ymhen ychydig, cafodd y tair y cyfle i ganu fel grŵp ond er mai gan Effie roedd y llais cryfaf - ac wedi arfer fel prif gantores - penderfynodd Curtis a brawd Effie, C.C (Keith Robinson) a oedd yn ysgrifennu i'r grŵp mai Deena ddylai arwain gan fod ei llais yn ddigon ysgafn ar gyfer y math o gynulleidfa roedd Curtis am ei denu, sef pobl wynion, gyfoethog.
Fel gallwch ddychmygu nid oedd Effie'n hapus o gwbl gyda'r penderfyniad hwn a'r syniad o ganu tu cefn i Early.
Mae'r ffilm yn dilyn rhamant rhwng Effie a Curtis, Deena a Curtis, Lorrell a James, heb anghofio gwraig James.
Felly, fel y dyfalwch, mae nifer o achosion o hunanoldeb ac hyd yn oed gasineb yn arddangos drwy gydol y ffilm.
Nid yw'r ffilm hon yn cuddio unrhyw beth rhag y gynulleidfa ond yn sicr mae llawer o gelu ar waith yn y ffilm, yn enwedig gydag Effie.
Darlunio'r cyfnod Teimlaf fod y ffilm yn darlunio'r cyfnod i'r dim gan ein hatgoffa am frwydrau hawliau dynol pobl dduon yr America a rhannau eraill o'r byd a thrwy hynny mae'n stori sy'n cyffwrdd â Martin Luther King Jr a'i araith fawr; "Mae gen i freuddwyd. . ."
Credaf y bydd yn ysbrydoliaeth i nifer o bobl, yn ddu neu'n wyn, gan fod y grŵp yn benderfynol o lwyddo yng nghymdeithas wen y cyfnod.
Er hyn teimlaf mai'r cyfan a olyga llwyddiant Deena Jones and the Dream i Curtis Taylor Jr yw arian.
Awgryma'r cymeriad hwn mai delwedd yw bopeth, dyna'r rheswm, yn fy marn i, pam fo Michelle Morris (Sharon Leal) yn cymryd lle Effie yn y grŵp ar ddechrau eu llwyddiant.
Ffilm gerddorol Fel mae'n amlwg, ffilm gerddorol yw hon gyda rhai yn dadlau bod gormod o ganu ynddi.
Yn amlwg nid yw'r beirniaid hyn yn deall y term ffilm gerddorol!
Efallai bod llawer o ganu ond mae'r cantorion yn fendigedig, gan gynnwys y dyn drwg, Curtis Taylor.
Ni allaf feddwl am ffilm well i'w gwylio yn y sinema.
Y seren I'm meddwl i, Jennifer Hudson yw'r seren er yn cael ei hystyried yn gymeriad ymylol.
Mae wedi profi Simon Cowell yn anghywir trwy ennill enwogrwydd gyda'i thalentau cerddorol ac actio.
Ar y cyfan mae'r ffilm yn cynnwys popeth; trasiedi, hunan sylweddoliad, rhamant, canu a pherfformio gwych.
Dengys ddyfnder emosiwn a sut y gall chwant ddinistrio bywydau.
Y cwestiwn y mae'r ffilm yn ei ofyn yw; A ydy ffrindiau a theulu yn bwysicach na'r chwant am arian a llwyddiant mewn byd hollol ddiethr a chreulon?
Gallaf ddweud yn bendant imi ddod allan o'r sinema gyda chryfder mewnol a'r angen i newid y byd fel ag y mae'r sioe gerddorol yn y West End, We Willl Rock You, yn gallu gwneud.
Yn wir, mwynheais y ffilm gymaint penderfynais ei gwylio eilwaith.
Erbyn hyn mae Jennifer Hudson wedi ennil Oscar am y rhan gynorthwyol orau. Da iawn hi!
Ond anodd deall pam na chafodd Beyonce ei henwebu am Oscar yn y rhan arweiniol. Ydy cymdeithas wedi'i rhannu'n ddau o ran y cenhedloedd wedi'r cyfan?
Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 91Èȱ¬ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|