Walking Tall Pastwn a chnocio pennau . . .
Y sêr Dwayne Johnson - The Rock, Johnny Knoxville, Neal McDonough, Kristen Wilson, Ashley Scott, Khleo Thomas
Cyfarwyddwr Kevin Bray
Sgrifennu David Klass, Channing Gibson, David Levien, Brian Koppelman
Hyd 86 munud
Sut ffilm Hen, hen, hen stori o dref wedi mynd a'i phen iddi gyda dihirod diegwyddor mewn grym a chyfraith a threfn yn rhemp nes I'n Harwr gyrraedd a gwneud popeth yn iawn trwy ddulliau sy'n fwy treisiol na rhai'r treiswyr gwreiddiol.
Lot o gwffio, lot o glatsio, lot o hwyl a môr o gyffro a'r angen i anghofio pob egwyddor ynglyn â hawliau sifil a chyfraith a threfn.
Y stori Pan fo dyn yn dychwelyd gartref i'w hen gynefin mewn ffilm Hollywood yr ydych yn gwybod fod helyntion dybryd nid yn gymaint ar y gorwel ond rownd y gornel nesaf.
Ac er bod y croeso'n gynnes pan yw Chris Vaughn (Dwayne The Rock Johnson) yn dychwelyd i'w hen gartref wedi wyth mlynedd yn y fyddin gwyddom bob un mai ond mater o amser yw hi nes bydd yn cael ei fwrw i fwrllwch anhrefn cymdeithasol gyda'r galw arno i herio'r dihirod yn null traddodiadol Hollywood.
Ydi, mae'r felin lifio a fu'n cynnal y dref wedi cau a chasino yn ben gyflogwr bellach. Mae'r ieuenctid ar ddrygiau a'r sheriff lleol ym mhoced y pen bandit (Neal Mc Donough).
Mae'r stori'n carlamu'n mlaen - fel sydd raid iddi mewn ffilm 86 munud - wedi i Chris gael ei dwyllo yn y Casino , ei guro a'i greithio a'i adael ar ganol lôn brysur i gusanu loris.
Dydi o ddim angen mwy o berswâd cyn estyn am bastwn a mynd ati i golbio, malu, dod yn Sheriff ei hun a chnocio pennau er mwyn adfer y dref i'w hen ogoniant.
Ac os yw'r stori yna'n ymddangos yn fwy cyfarwydd nag arfer ichi rheswm da pam. Gwnaed y Walking Tall cyntaf yn 1973 wedi ei sylfaenu ar wir hanes sheriff o Tennessee o'r enw Buford Pusser (yn cael ei chwarae gan Joe Don Baker). Dilynnwyd y ffilm honno gan Walking Tall II a Final Chapter: Walking Tall.O do, yr ydym ni wir wedi bod yma o'r blaen er bod rhyw fân newidiadau yn y Walking Tall diweddaraf yma.
Y darnau gorau Eiliad sydyn pan fo dihiryn yn cael ei ddychryn i gerdded yn erbyn wal. Hawdd ei cholli wrth dyrchu yn eich pecyn popcorn.
Fel arall, mae'r cwffio'n frwnt, yn waedlyd, yn giaidd ac yn anifeilaidd.
Ac os gallwch chi gredu fod yr olygfa yn y llys yn argyhoeddi - ewch am archwiliad hygrededd.
Perfformiadau Mae'r Rock yn syndod o apelgar hyd yn oed pan yw ei gydymaith ffraeth ei dafod Ray Templeton (Johnny Knoxville) mewn peryg o dynnu sylw oddi wrtho.
A phe byddai yna Oscar am actio yng nghanol llif Awst o fwledi mewn brâ a nicyrs coch byddai enw cariad Chris (Ashley Scott) yn yr amlen.
Gystal â'r trelar? Dyw'r ffilm i gyd fawr hirach nag ambell i drelar.
Y canlyniad Er bod y cyfan yn eithaf amrwd a difeddwl mae rhywun, ar ei waethaf, yn cael ei sugno i'r stori ond ffilm yw hon sydd wedi ei gosod ar seiliau moesol sigledig iawn.
Ambell i farn "Tenau ond difyr," meddai'r 91Èȱ¬ ond yn pryderu fel y dylai pob un ohonom fod y Da yn defnyddio'r un dulliau torcyfraith yn union a'r Drwg i gael trefn ar bethau.
Ond y farn gyffredinol yw fod Walking Tall yn hawdd i'w gwylio ond mae rhywfaint amheuaeth yw hi werth ei gwylio!
Gwerth mynd i'w gweld Pam ddim.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|