Bullet Boy Gŵyl Ffilm Cymru Ddu
Adolygiad Gwyn Griffiths o Bullet Boy yng Ngŵyl Ffilm Cymru Ddu, Caerdydd.
Cychwynnodd trydedd Gŵyl Ffilm Ryngwladol Cymru Ddu yng nghysgod cyfres o ddigwyddiadau a thrychinebau yn Llundain.
Ar ei dydd agoriadol cyhoeddodd Cyngor Cydraddoldeb Hiliol De-ddwyrain Cymru (SEWREC) gynnydd sylweddol yn nifer yr achosion o ymddygiad bygythiol a threisiol tuag at bobl o dras Asiaidd yng Ngwent - yn bennaf, yng Nghasnewydd.
Mwy o anoddefgarwch Cynyddodd y nifer o 10 digwyddiad y mis ar gyfartaledd i 30 mewn pythefnos, yn ôl y prif-weithredwr, Dave Phillips.
Dywedodd Manny Hothi, Swyddog Cymunedau'n Gyntaf Cyngor Cydraddoldeb Hiliol y Cymoedd (VALREC), nad oedd nifer y digwyddiadau yn ymwneud â hiliaeth yng Nghymoedd y De ar i fyny, ond bod tystiolaeth o gynnydd mewn anoddefgarwch a rhagfarn yn erbyn lleiafrifoedd du ac ethnig.
Ar ryw olwg, felly, yr oedd rhywbeth ddamweiniol ffodus yn amseriad yr Å´yl; cyfle i dynnu pobl o wahanol hil a chefndir at ei gilydd mewn cyfres o ddigwyddiadau cerddorol, seminarau a chyfle i wylio ffilmiau.
Cychwynnwyd yr Å´yl yn yr UCI ym Mae Caerdydd gyda dangosiad o'r ffilm Way of Life gyda'r gyfarwyddwraig, Amma Asante, aelodau o gast EastEnders a noddwyr o fyd ffilm a theledu a'r diwydiant yn bresennol.
Enillodd y ffilm hon am hiliaeth yng nghymoedd de Cymru wobr BAFTA.
Stori gignoeth Ar y nos Sadwrn, tra roedd cynulleidfa sylweddol yn mwynhau noson fywiog o gerddoriaeth glasurol Affricanaidd ac Affro Hip Hop yng nghyntedd Canolfan y Mileniwm, dewisais fynd i weld y ffilm Bullet Boy yn yr UCI.
Ni allai'r gwrthgyferbyniad fod yn fwy. Dyma stori gignoeth, wedi ei gosod mewn stad cyngor, dreisiol, wyllt yn nwyrain Llundain.
Mae'n cychwyn gyda Ricky, 18 oed, yn dod allan o garchar troseddwyr ifanc. Mae'n benderfynol o gadw ar y llwybr cul y tro hwn, ond gyda chyfaill fel y penboethyn Wisdom (Leon Black), yno i'w groesawu pa obaith sydd ganddo?
Nid oes gan Wisdom amgymffred o ddoethineb, mai doethach weithiau fyddai troi'r rudd arall a cherdded ymaith.
Yn lle hynny mae mymryn o ddamwain car - dim gwaeth na malu drych - yn arwain, yn gwbl gredadwy, at gylch dieflig o ddial ac ail-ddial bob cam i gyfres o lofruddaethau.
Mae gan Ricky frawd bach 12 oed, Curtis, ac yn anochel y mae hwnnw'n cael ei dynnu i'r helyntion, yn enwedig pan ddaw o hyd i'r gwn sydd ym meddiant ei frawd mawr.
Mae'r gwn fel rhyw linyn drwg drwy'r stori, ac yn y diwedd y mae Curtis yn ei daflu i'r afon. Ai dyma dorri'r llinyn, tybed?
A yw'r weithred hon yn ddigon i'w gadw ef rhag cael ei dynnu i droell o drais? Chawn ni ddim gwybod, ond gwyddom fod drwg aruthrol wedi'i wneud.
Mae'r llinell rhwng llwyddo a methu mewn cymdeithas dlawd fel hon mor druenus o frau a thenau, dyna un o negeseuon mawr y ffilm.
Teulu cyffredin Nid oes yma ddim am gyffuriau nag arfau - heblaw yr un gwn sy'n rhannol gyfrifol am y drasiedi.
Stori am deulu cyffredin o dras India'r Gorllewin ond heb fod yn wahanol i filoedd o deuluoedd gwynion tlawd, yn brwydro byw.
Ond gyda dyfodiad y gwn a rhywun sy'n barod i'w ddefnyddio mae'r teulu'n cael ei chwalu a bywydau'n mynd yn ofer.
Ceir perfformiadau ardderchog gan y prif gymeriadau, gan gynnwys Beverley y fam, a chwaraeir gan Claire Perkins. - Hyd Bullet Boy yw 91 munud, y cyfarwyddwr yw Saul Dibb a'r dystysgrif. 15.
Cysylltiadau Perthnasol
Mwy am Å´yl Ffilm Cymru Ddu
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|