War (2007) Cyffro - a themâu pwysig
Y Sêr: Jason Statham, Jet Li, John Lone, Devon Aoki, Luis Guzman.
Cyfarwyddo: Philip G Atwell.
Sgrifennu: Lee Anthony Smith, Gregory J Bradley.
Hyd: 103 Munud.
Adolygiad Shaun Ablett
Ffilm am John Crawford (Jason Statham) o'r FBI sydd am ddial ar Rogue (Jet Li) o Faffia China am ladd ei gydweithiwr a'i gyfaill, Tom Lone (Terry Chen) a'i deulu.
Dair blynedd wedi'r lladd mae Rogue yn helpu Maffia China i gael gwared â phennaeth y Maffia Siapan, Shiro (Ryo Ishibashi) a Crawford yn dal ar ei drywydd.
Hoffais y ffilm hon mas draw gan fod rhywbeth hollol wahanol yn digwydd sy'n creu syndod enfawr ar ôl pob golygfa.
Mae stori ddiddorol iawn yn y ffilm hôn. Er imi hoffi perfformiad Jason Statham fel John Crawford, Jet Li sydd orau fel - y llofrudd, Rogue.
Rwy'n hoff iawn o Jet Li fel actor am ei fod yn dod â rhywbeth unigryw i bob un o'i ffilmiau - ei dechnegau ymladd.
Dyma sy'n rhoi gwir gyffro a thensiwn i'r ffilm ac yn gwneud y ffilmiau môr llwyddiannus.
Rydw i'n cymell y ffilm hon i bawb sy'n hoffi digon o gyffro ac yn mwynhau ffilm sy'n portreadu themâu pwysig iawn, yn cynnwys perthynas rhwng ffrindiau, cariad a brad a'i effaith ar bobl.
Un o ffilmiau gorau Jet Li, yn sicr.
Darparwyd yr erthygl fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 91Èȱ¬ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben, 31 Ionawr 2008
|