Jarhead (2006) Trallod mewn tywod
Y sêr
Jake Gyllenhaal, Peter Sarsgaard, Jamie Foxx, Skyler, Stone, Wade Williams
Cyfarwyddo
Sam Mendes
Sgrifennu
William Broyles Jr, Anthony Swofford
Hyd
122 munud
Sut ffilm
Ffilm wedi ei sylfaenu ar lyfr Anthony Swofford yn sôn am ei brofiadau yn Rhyfel y Gwlff 1991. Dyfyniadau trawiadol o'r llyfr a ddefnyddir i wthio'r ffilm yn ei blaen.
Y stori
Yn fachgen peniog 20 oed ar ei ffordd i goleg mae Anthony Swofford (Jake Gyllenhaal) yn ymuno a'r Marines Americanaidd a chan ei fod mwy deallus na'r milwyr brith eraill sydd o'i gwmpas mae'n cael ei hyfforddi'n sneipar.
Ond gydol 175 o ddiwrnodau yn Saudi Arabia dydi o ddim yn cael cyfle i ladd neb ac mae'n dychwelyd adref heb danio ei reiffl unwaith!
Nid stori ond clytwaith o ddarluniau o fywyd milwr sydd yma - a bywyd ofnadwy ydi o gyda'r milwyr yn ymddwyn yn atgas tuag at ei gilydd, yn byw mewn cyson fod eu cariadon gartrewf yn anffyddlon iddyn nhw ac yn tynnu ar ei gilydd.
Mae'n anhygoel meddwl mai peth fel hyn yw'r fyddin fodern heb na brawdoliaeth, arwriaeth na chytgord.
Yn wir, mae'n ymddangos mai meithrin atgasedd a dadddyneiddio pobl yw dull y rhingyll wrth hyfforddi'r milwyr.
Mae disgwyl am frwydr ac am ymosodiad yn troi'n syrffed ac agweddau gwaethaf y natur ddynol yn meddiannu'r milwyr. yn y gwres , y budreddi a'r tywod.
Ond os nad oes llawer yn digwydd mae yma gyfresi o ddarluniau ysgytwol megis gorymdaith gerbydau wedi ei difrodi a'r bobl yn golsiau duon.
Mae'r ffilm yn cychwyn gyda'r darlun ffiaidd o hyfforddiant cychwynnol milwyr - rhywbeth yr ydym yn gyfarwydd ag ef mewn ffilmiau eraill, rhaid dweud ond bod mwy o din ac atgasedd y tro hwn gyda sesiynau wyneb yn wyneb gwir ddramatig wrth i ringyll fynd ati i ddiraddio milwyr a'u gwneud nhw i deimlo yn is na baw.
Y canlyniad O bosib mai am y gwaith ffotograffig rhagorol y bydd Jarhead yn cael ei chofio. Mae sawl golygfa afaelgar yn yr anialwch - yn arbennig yr olygfa lle maen nhw'n dod ar draws criw o grwydriaid gwelediad ohonyn nhw wedi ei lurgunio gan y gwres.
Ond mae angen camp go arbennig i wneud i ffilm fel hon gydio a chynnal sylw rhywun.
Mae mor wir, fod syrffed y peth anoddaf i'w gyfleu yn ddifyr ac er bod gan Sam mendes ddigon i'w ddweud ac i'w ddangos dydi o ddim yn llwyddo'n llwyr.
Er bod rhywun yn croesawu ffilm mewn sinema sydd ddim yn dyrchafu rhyfel mae rhywun yn siomedig na chafwyd gwell hwyl ar wneud hynny.
Y darnau gorau Y rhan agoriadol yn y boot camp mileinig Symud y bwced garthion.Y cyrff llosgedig wedi bomio'r ceir.Y ffynhonnau olew yn llosgi..
Perfformiadau Heb amheuaeth mae Jake Gyllenhaaal yn argyhoeddi fel y llanc deallus sy'n cael ei ddal ynghanol y fath anifeildra - wedi dilyn yn ôl troed ei dad a fu'n filwr yn Vietnam genhedlaeth ynghynt. Ond tybed nad y perfformiad gyda'r mwyaf o ddyfnder iddo ydi un Jamie Foxx fel y sarsiant sy'n mwynhau bod yn filwr.
Gystal â'r trelar?
Mae'r trelar yn rhoi'r argraff o fwy yn digwydd..
Ambell i farn Pennawd y Sunday Times ydi: Inaction Hero. Ac meddai'r 91Èȱ¬: "Mae fel Disgwyl Godot gyda chyllideb effeithiau arbennig!
Mae'r Sunday Times yn cwyno hefyd fod prinder hiwmor.
Y teitl Dyma'r enw ar Marines yr Unol daleithiau - oherwydd y gwallt sydd wedi ei gyda'r croen nes gwneud i'w pennau edrych fel jariau. "Llestri gweigion," meddai Swoford.
Gwerth ei gweld?
Er bod ffilm sy'n rhoi darlun mor fyw a realistig o hunllef bywyd milwyr bob amser yn addysg o safbwynt difyrrwch, adloniant a chael y neges adref yn effeithiol mae rhywbeth yn eisiau yn Jarhead. Ond i ateb y cwestiwn - ydi, mae hi yn werth mynd i'w gweld.
|
|