Ffilmiau Cymru ddoe Hen ffilmiau o ddiddordeb heddiw
Er mai Hollywood yn Yr Unol Daleithiau sy'n hawlio'r clod o fod yn grud y diwydiant ffilm byd-eang bu Cymru hithau'n feithrinfa i ddatblygiad y grefft o gofnodi stori, digwyddiad neu ddrama mewn lluniau - a'r rheini'n lluniau symudol.
Bywyd Cymru O ddechrau cynta'r diwydiant cofnodwyd bywyd Cymry'r dydd yn eu gwaith ac yn eu chwarae a phrofodd ardaloedd chwareli Gwynedd yn dir arbennig o ffrwythlon i'r cynhyrchwyr cynnar hyn.
Mae llawer o'r gwaith hwnnw yn dal ar gael a dangoswyd tair hen ffilm mewn digwyddiad yng Nghlynnog Fawr ger Caernarfon Ebrill 23-25, 2007, yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai.
"Gwefreiddiwyd cynulleidfaoedd gan wyrth y lluniau'n symud ar y sgrin - yn enwedig eu lluniau eu hunain," meddai Cadeirydd Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, Geraint Jones.
"Ond yr hyn sy'n nodedig yw fod y ffilmiau'n llawn mor ddiddorol i ni ag yr oeddent i'r oes a fu," ychwanegodd.
Casgliad preifat O gasgliad preifat y daeth Gwaith Mawr Trefor a ffilmiwyd yn ôl yn 1929 yn dangos caledi bywyd y chwarelwr ithfaen pan oedd gweithfeydd Yr Eifl yn eu hanterth.
Drwy'r 91Èȱ¬ y daeth Llygad Coch i'r fei. Cynhyrchwyd y ffilm hanner awr hon ym Mhumdegau'r ganrif ddiwethaf gan y diweddar John Roberts Williams pan oedd Chwarel Dorothea yn Nyffryn Nantlle yn dal ar waith.
Sgriptiwyd hi gan yr cyn athro o LÅ·n a hanodd o Ddyffryn Nantlle, Gruffudd Parri.
O'r 91Èȱ¬ hefyd y daeth ffilm fer ond ddadlennol o ddiwrnod corddi yn Nhan y Clawdd - tyddyn yng Nghapel Uchaf ger Clynnog Fawr.
"Mae'r tair yn ffilmiau diddorol oherwydd eu bod yn cofnodi agweddau pwysig o'r oes a fu'n y cwmwd hwn," meddai Geraint Jones.
Y ganolfan Agorwyd Canolfan Hanes Uwchgwyrfai y llynedd yn menter gymunedol i olrhain hanes y cwmwd sy'n ymestyn o Fynyddoedd yr Eifl ar hyd Bae Caernarfon cyn belled â'r Bontnewydd ac yn cynnwys Dyffryn Nantlle a'r cyffiniau.
Derbyniodd nawdd o Gronfa Amcan Un y Gymuned Ewropeaidd yn ogystal â Chyngor Gwynedd a Rhaglen CAE Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|