King Kong - 2005 Tlysni yn trechu
King Kong (2005)
Y sêr
Naomi Watts, Jack Black, Adrien Brody, Andy Serkis, Thomas Kretschmann, Jamie Bell
Cyfarwyddo
Peter Jackson
Sgrifennu
Peter Jackson, Fran Walsh, Philippa Boyens
Hyd
187 munud
Sut ffilm
Yr un hen stori ond yn cael ei dweud yn llawer iawn mwy mawreddog a swnllyd ac yn llawer iawn hirach nag o'r blaen.
Can munud oedd y King Kong gwreiddiol yn 1933 - mae'n gan munud cyn ichi hyd yn oed weld Kong yn y diweddariad hwn!
Ffilm gyntaf Peter Jackson yn dilyn Lord of the Rings.
Y stori
Mae'r cyfarwyddwr ffilm mentrus, Carl Denham (Jack Black), yn hwylio gyda'i griw i Skull Island - ynys sy'n berwi o greaduriaid cynhanes gan gynnwys yr epa anferth Kong (Andy Serkis a chwaraeai Gollum yn nhriawd y Rings) sy'n cipio'r brydferth Ann Darrow (Naomi Watts), prif actores Denham.
Mae'r ferch brydferth yn deffro rhyw addfwynder cudd yn yr anghenfil sydd, maes o law, yn cael ei ddal a'i gludo'n ôl i Efrog Newydd i'w arddangos fel wythfed rhyfeddod y byd - ond mae'n dianc i wynebu ei ddiwedd ar ben un o adeiladau uchaf y ddinas yn cael ei erlid gan awyrennau yn saethu ato. Yr Empire State Building oedd yr adeilad yn y ffilm wreiddiol, to y World Trade Centre, yn fersiwn 1976 o'r ffilm.
Mae yma gyfuniad o antur, cyffro a rhamant wrth i'r actores a'r anghenfil ymserchu yn ei gilydd yn null oesol beauty and the beast.
Y canlyniad Mae'n beth rhyfedd i gwyno amdano ynglŷn â ffilm gyffro ond dywed mwy nag un bod yna ormod yn digwydd yn King Kong 2005 gyda'r ymlid a'r dianc diderfyn mewn peryg o droi'n syrffed.
Weithiau, mae'r munudau tawel a theimladwy rhwng Watts a Kong yn llawer mwy effeithiol a chofiadwy.
Syrffedus hefyd ydi'r fordaith i Skull Island a gellid yn hawdd iawn fod wedi rhoi tecach gwynt tu ôl i'r llong iddi gyrraedd ynghynt - byddai hynny wedi bod o fendith i'r ffilm ac i ninnau.
Y darnau gorau Ymddangosiad Kong.
Y frwydr fawr â'r deinosoriaid.
Y darlun cyfansawdd ar y cychwyn o gynni Efrog Newydd y Tridegau gyda'r gwersyll i'r diwaith, y ceginau cawl a'r y llwglyd yn chwilio'r biniau am fwyd.
Perfformiadau Er bod Naomi Watts yn wych fel yr actores dlodaidd sy'n syrthio mewn cariad â'r anghenfil Kong does dim amheuaeth mai perfformiad Kong ei hun mae rhywun yn mynd i'w gofio. Mae o yn wych. Pob canmoliaeth i Jack Black fel y ffliar, Denham.
Gystal â'r trelar?
Byddai wedi bod yn anodd crynhoi mewn unrhyw drelar yr hyn y cymer deirawr i'w gyflawni.
Ambell i farn Disgrifiwyd fersiwn 1976 o Kong gan un beirniad fel stori am flonden dwp yn syrthio mewn cariad â bys mawr plastig.
Mae'r beirniaid dipyn caredicach y tro hwn gyda chanmoliaeth arbennig i berfformiad Naomi Watts sydd wedi ymwrthod yn llwyr â dehongliad sgrechlyd Fay Wray yn ffilm 1933.
Hen hanes
Teg dweud mai dyma anghenfil mwyaf adnabyddus y sinema.
Ers dychryn a gwefreiddio pobl gyntaf yn 1933 bu ymdrechion eraill i ail-greu'r cyffro. Son of Kong yn gyntaf er nad oedd honno ond megis cysgod o'r ffilm wreiddiol a'r effeithiau sinematig yn bethau diniwed iawn y tro hwn.
Salw hefyd oedd Mighty Joe Young yn 1949.
Methiant pellach fu diweddariad yn 1976 gyda Jessica Lange 27 oed yn chwarae'r rhan a grewyd gan Fay Wray ond doedd yna eto ddim o wefr y ffilm a wnaed yn 1933. Mae'n deyrnged i waith camera cywrain a llafurus Willis H O'Brien fod y ffilm honno yr un mor drawiadol i'w gwylio hyd yn oed heddiw.Syniad cymeriad lliwgar o'r enw Merian C Cooper oedd King Kong - dyn a allai yn hawdd fod yn destun ffilm ei hun. Bu'n ymladd yn erbyn Pancho Villa ym Mecsico; fe'i saethwyd i lawr yn yr Almaen adeg y Rhyfel Byd Cyntaf a phan yn wirfoddolwr gyda byddin gwlad Pwyl fe'i hanafwyd yn Rwsia lle treuliodd flwyddyn mewn gwersylloedd llafur.Deunaw modfedd oedd y model o King Kong a ddefnyddiwyd yn ffilm 1933. Un rheswm am boblogrwydd y ffilm wreiddiol oedd fod Kong yn cael ei weld gan lawer fel ymgnawdoliad o'r gyfalafiaeth reibus a oedd wrth wraidd cynni'r Tridegau ac yr oedd rhyw gysur yn ei ddarostyngiad yng ngolwg y tlawd a'r diwaith. Nid yw'r ddelwedd hon mor amlwg yn fersiwn 2005 er mae'r un neges sylfaenol o oruchafiaeth tlysni dros hagrwch neu hylltod yn aros yr un gyda Denham yn cyhoeddi unwaith yn rhagor nad yr awyrennau a laddodd Kong ond harddwch. "It was Beauty killed the Beast," meddai.. Naw oed oedd Peter Jackson pan welodd King Kong gyntaf - ar y teledu ym mhentref bychan Pukerua Bay ger Wellington, Seland Newydd. Yn ei arddegau torrodd ddarnau o got ffwr ei fam er mwyn creu Kong iddo'i hun!
Gwerth ei gweld?
Heb amheuaeth. Dywedwyd mai'r frwydr fawr yn y sinemâu y Nadolig hwn fydd yr un rhwng Kong ac Aslan. Kong fydd yn ennill.
Cysylltiadau Perthnasol
King Kong ac Aslan - Wythnos o Feddwl
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|