Knocked Up (2007) Stori seml yn dweud llawer
Y sêr
Seth Rogen, Katharine Heigl, Leslie Mann, Paul Rudd.
Cyfarwyddo
Judd Apatow
Sgrifennu
Judd Apatow
Hyd
129 munud
Sut ffilm
Ffilm y mae'r beirniaid wedi syrthio mewn cariad â hi. Gwahanol raddau o ganmoliaeth sydd yna yn ddieithriad i'r ffilm Americanaidd hon sy'n llwyddo gyda chyfuniad o hiwmor amrwd, mentrus a di-chwaeth i fynd i'r afael a chwestiynau am berthynas unigolion a'i gilydd a chyfrifoldebau tuag at eraill.
Ond er mor ddoniol yw hi dydi hi ddim y ffilm orau ers i chwerthin gael ei ddyfeisio fel mae ambell un yn ceisio dweud.
Y stori
Pan fo Alison (Katherine Heigl) allan gyda Debbie ei chwaer (Leslie Mann) yn dathlu cael ei dyrchafu'n gyflwynydd gyda'r cwmni teledu mae'n gweithio iddo mae'n cyfarfod llabwst diog o'r enw Ben (Seth Rogen) ac yn ei meddwdod yn mynd ag o adref gyda hi i'w gwely.
Wyth wythnos yn ddiweddarach mae'n darganfod ei bod yn feichiog ac mai'r tad ydi'r llabwst anaeddfed sy'n treulio'i ddyddiau gyda ffrindiau yr un mor ddiwerth yn gwylio'r darnau noeth mewn ffilmiau er mwyn creu gwefan ohonyn nhw.
Ar wahân i'r noson annoeth honno o chwant does dim yn gyffredin rhyngddo ef ag Alison - ond am reswm nad yw'n cael ei egluro'n iawn mae hi'n penderfynu cadw a magu eu hepil damweiniol. Eu helyntion rhwng y cenhedlu a'r geni yw busnes y ffilm.
Y canlyniad
Bydd y rhai a welodd The 40 Year Old Virgin yn gwybod beth sydd gan Apatow i'w gynnig a fyddan nhw ddim yn cael eu siomi.
Mae'r hiwmor yn fras, yn gwrs ac yn "adult" chwedl yr hyrwyddwyr.
Ond yn y dull Americanaidd mae'r rhamantus a'r feelgood yn drech na'r cyfan yn y diwedd a'r gynulleidfa yn ysu i gael gweld a fydd y mochyn Ben yn tyfu'n dad cyfrifol.
Go brin y bydd yn difetha'r ffilm i neb cael gwybiod fod y pâr cwbl anghymarus yn closio ac ar erchwyn dyfodol hapus.
Ond mae lle yma am ddilyniant helyntion magu'r babi siŵr o fod.
Darnau gorau Mae nifer o olygfeydd cofiadwy sy'n cynnwys yr un lle mae Ben yn ei chael yn anodd cael cyfathrach rywiol â'r Alison feichiog.
Ymateb Debbie pan wrthodir mynediad iddi hi ag Alison i glwb nos am ei bod yn rhy hen!
Ben yn gofyn i Alison ei briodi gyda blwch modrwy gwag i'w gadw ganddi nes y gall fforddio modrwy.
Ffrae Debbie a'i gŵr wrth y bwrdd.
Cyfweliadau Alison gyda'i chyflogwyr.
Perfformiadau Yr un sy'n goleuo'r ffilm ydi Leslie Mann - gwraig y cyfarwyddwr, Apatow - fel y chwaer hynaf y mae Alison yn byw gyda hi a'i gŵr.
Daw â rhywbeth arbennig i bob golygfa mae ynddi ac mae'r berthynas rhyngddi hi a'i gŵr, Pete, (Paul Rudd) yn haen sy'n cyfoethogi'r ffilm yn arw.
Hebddi hi byddai'n ffilm llawer tlotach.
Er nad ydyn nhw ond ar y sgrin ddwywaith ac am funudau yn unig, dau arall sy'n godro popeth o'u rhannau yw penaethiaid Alison yn ei gwaith, Jack (Alan Tudyk) ac, yn arbennig, Jill (Kristen Wiig) sy'n medru dweud cyfrolau gydag ychydig eiriau ac edrychiad.
Maen nhw gystal nes bo rhywun yn siomedig na fu rhagor o gyfarfyddiadau rhyngddyn nhw ag Alison.
Ambell i farn
Y gamp yw dod o hyd i unrhyw un sydd ddim yn canmol i'r cymylau gyda'r Guardian, y Telegraph a'r Independent on Sunday yn rhoi 8, 8 a 9 o bwyntiau yn ôl siart grynodeb wythnosol y Guardian.
Y Telegraph sy'n difetha'r sgôr ar draws y bwrdd gyda 3 marc a'r farn mai llabwst anaeddfed na all gynnal na pherthynas na ffilm yw Ben.
Mae'r gwirionedd rywle rhwng y pegwn hwn a'r gorganmol.
Gwerth ei gweld? Fel gyda chymaint o ffilmiau y dyddiau hyn mae syniad da wedi ei ymestyn yn rhy hir yn Knocked Up ac fe fyddai ar ei hennill o fod wedi hepgor rhyw ugain munud.
Ond er nad yw'r ffilm gystal â'r holl ganmol mae'n sicr werth ymweliad â'r sinema - ac mae'n deyrnged i Apatow iddo odro cymaint o stori mor wantan a chyfuno mor ddeheuig gymaint o wirioneddau a hiwmor.
Ond fel y dywed adolygydd arall, dydi hi ddim cystal ag i'ch deffro'n chwerthin ganol nos!
|
|