Melys gyda min chwerw
Y sêr
Johnny Depp, Christopher Lee, Helena Bonham Carter, Freddie Highmore, James Fox, Noah Taylor, Missy Pyle, Deep Roy, David Kelly.
Cyfarwyddwr
Tim Burton
Sgrifennu
John August, yn seiliedig ar nofel Roald Dahl
Hyd
126 munud
Adolygiad Grahame Davies
Mae llawer o waith Roald Dahl ychydig fel siocled tywyll - yn felys, ond gyda min chwerw. Y gamp wrth geisio dod â'r blas hwnnw i'r sgrîn fawr yw i gadw'r ddwy elfen honno mewn tyndra creadigol. Gyda fersiwn Tim Burton o Charlie and the Chocolate Factory, fe lwyddwyd i wneud hynny mewn modd penigamp.
O'r olygfa gyntaf, lle gwelir ffatri anferthol Willy Wonka yn bwrw ei chysgod tywyll dros y dref, mae'r ffilm hon yn hyfrydwch pur.
Mae'r stori yn dilyn hynt y bachgen bach tlawd ond dymunol, Charlie Bucket, wrth iddo ennill un o'r pump tocyn aur sy'n rhoi cyfle i'r enillwyr lwcus dreulio diwrnod yn ffatri siocled ddirgelaidd Willy Wonka. Yr hyn a geir wedyn yw hanes yr helyntion a ddaw i'w ran ef a'r pedwar o enillwyr eraill- pedwar plentyn sydd wedi eu llwyr ddifetha - wrth iddynt fentro i fyd ymddangosiadol ddeniadol ond anrhagweladwy.
Ail fersiwn ffilm
Dyma'r eildro i Hollywood geisio gwireddu gweledigaeth yr awdur o Gaerdydd, a rhoi ei foeswers swreal a siocledaidd ar y sgrîn: cafwyd fersiwn cerddorol effeithiol iawn gyda Gene Wilder yn y prif ran ym 1971.
Ond byddai unrhyw gymhariaeth yn annheg, achos mae'r ffilm ddiweddaraf yn ddehongliad ar gyfer oes arall, a chyda safonau cynhyrchu gwahanol iawn, a dylid ei barnu ar ei thelerau ei hun.
Gwyddwn yn rhy dda am ddigon o ffilmiau diweddar lle dibynwyd yn ormodol ar effeithiau CGI ar draul elfennau angenrheidiol fel stori dda ac actio cryf. Ond, er y ceir digon o effeithiau arbennig yn ffilm Burton i fodloni'r gwyliwr mwyaf didaro, fe benderfynodd adeiladu llawer o'r setiau fel rhai go-iawn er mwyn sicrhau argraff realaidd.
Mae hynny'n tanlinellu ei ymroddiad at werthoedd creiddiol y grefft o ddweud stori drwy ffilm, ymroddiad a welir wrth iddo adael i'r stori gref wreiddiol weithio'i hud a lledrith, gyda'r effeithiau arbennig yn gymorth yn hytrach na vice versa ac wrth iddo ddenu perfformiadau cyfareddol gan yr actorion, yn arbennig gan Johnny Depp yn y prif ran fel Willy Wonka.
Perfformiad Johnny Depp
Fe ystyrir Depp, sy'n gymeriad digon echreiddig a dirgelaidd ei hun, fel actor mwyaf diddorol ei genhedlaeth, yn arbenigo, er ei olygon trawiadol, mewn cymeriadau od ac ymylol. Fe ddangosodd ei ddoniau yn arbennig o gryf y llynedd wrth chwarae'r dramodydd J.M.Barrie gyferbyn â Kate Winslet yn Finding Neverland.
Fel Willy Wonka, mae Depp yn rhyfeddol, yn ddirgelaidd, yn od, yn unig, yn beryglus, ond gyda mwy nag awgrym o'r hyglwyf a'r bregus.
Er i'r cwmni cynhyrchu a'r cyfarwyddwr wadu'r peth yn groch, 'does dim dwywaith bod llawer o Michael Jackson yn perthyn i gymeriad Wonka fel y'i chwareuir gan Depp - yn ddyn unig, yn rhannol yn oedolyn ac yn rhannol yn blentyn, yn byw yn ei fyd ffantasi ei hun a'i ddoniau cymdeithasol wedi gwywo o fod wedi cadw o olwg y cyhoedd ers blynyddoedd.
Ar gwpl o adegau, pan aiff y gwaith o gadw cwmni i'w gwesteion yn ormod i'w sgiliau sgyrsiol, mae'n darllen ei sylwadau parod o gardiau arbennig. Ceir cyffyrddiadau fel hynny gydol y ffilm.
Melys ddial
Fel Charlie, mae Freddie Highmore yn actio gyda Johnny Depp am yr eildro mewn blwyddyn - ef oedd un o feibion Kate Winslet yn Finding Neverland - ac mae'n llwyddo i gyfleu neisrwydd naturiol a diymdrech, ynghyd â'r gallu, pan fo angen, i fynegi didwylledd dwys ac argyhoeddiadol mewn ychydig eiriau, dawn y buasai unrhyw wleidydd yn eiddigeddus ohoni.
Ceir perfformiadau cryf hefyd gan weddill y cast, yn arbennig yr ymwelwyr eraill â'r ffatri, criw o blant cartwnaidd ac erchyll, sef: un ferch gyfoethog o Loegr, Veruca Salt, sydd wedi ei difetha y tu hwnt i adferiad; un clobyn mawr o fachgen o'r Almaen, Augustus Gloop, sy'n gweld bywyd yn un wledd ddiddiwedd; un Americanes fach ddidrugaredd o gystadleuol, Violet Beauregarde, a'i chydwladwr, yr annymunol o beniog Mike Teavee.
Un o bleserau'r ffilm yw gweld y ffordd y mae'r plantach yma, a'u rhieni alaethus, yn eu tro, yn profi rhyw fath o gosb gludiog. Melys ddial yn wir.
Ac un o ogoniannau'r ffilm yw Deep Roy, yr actor byr-o-gorff sy'n chwarae - trwy gymorth lluosogi cyfrifiadurol - pob un o weithwyr bychain ffatri Willy Wonka, yr Ooompa Loompas, creaduriad sydd, yn y ffilm hon, yn cadw'n beryglus o agos i'w gwreiddiau yr yr oes cyn cywirdeb gwleidyddol pan luniwyd y nofel wreiddiol.
Tywyllwch
Un o gryfderau'r ffilm yw'r modd y mae Burton yn llwyddo i greu byd diamser a diwylliannol-amwys ar gyfer y digwyddiadau. Fel y gellid disgwyl gan gyfarwyddwr sydd wedi ymbriodi i'r fath raddau â'r cyfnos a'r gothig, mae rhywbeth bygythiol am awyrgylch ffatri dywyll Willy Wonka, sy'n edrych fel rhyw fath o orsaf bŵer ormesol.
Wrth i'r cymeriadau basio drwy gyfres o wahanol fydoedd y tu fewn i'r ffatri, mae'r ffilm yn wledd i'r llygaid. Mae'r sgript hefyd yn ffraeth ac yn ddrygionus.
Roedd y gynulleidfa yn y premiere yng Nghaerdydd yn chwerthin yn uchel mewn sawl man.
'Wyddoch chi fod siocled yn rhyddhau endorphins yn y corff sy'n gwneud ichi deimlo fel eich bod chi mewn cariad?' gofynna Willy Wonka mewn un man.
Mae yn llygad ei le. Mae Charlie and the Chocolate Factory yn ffilm y mae'n hawdd iawn syrthio mewn cariad â hi.