The Bourne Supremacy Bourne - dyn sy'n mynd i rywle
Y sêr Matt Damon, Joan Allen, Franka Potente, Brian Cox, Julia Stiles, Karl Urban
Cyfarwyddwr Paul Greengrass
Sgrifennu Tony Gilroy
Hyd 108 munud
Sut ffilm Rhemp o rasio gwyllt a rhuthro gorffwyll am ysbïwr yn dianc rhag ei erlidwyr. Wedi ei sylfaenu ar nofel o'r un enw gan Robert Ludlum ac yn ddilyniant i The Bourne Identity - 2002.
Y stori Er i bawb gredu fod yr ysbïwr, Jason Bourne (Mat Damon), wedi marw mae o'n byw gyda'i gariad, Marie (Franka Potente), yn Goa yr India - ond wedi colli'i gof.
Cychwyn y cynnwrf diweddaraf yn ei fywyd pan fo asiant o Rwsia yn ceisio ei ladd.
Er bod Marie yn marw llwydda Bourne i ddianc a hynny'n gychwyn helfa yr ydych angen map o'r byd i'w dilyn gyda Naples, Munich, Berlin a Moscow ymhlith y llefydd yr ymwelir â hwy wrth i Bourne geisio cadw gam ar y blaen nid yn unig i'r Rwsiad ond i'r CIA, dan arweiniad pennaeth oeraidd, Pamela Landy (Joan Allan), sydd hefyd yn awyddus i gael gair ag ef.
Gyda Jason yn cael ei hyrddio hyd strydoedd mewn tacsis a cheir ac i fyny ac i lawr grisiau a thrwy ffenestri ac ar hyd strydoedd tywyll sylweddolwn yn fuan iawn mai dim ond hynny o stori sydd yna mewn gwirionedd.
Yn wir, mae'r Bourne Supremacy yn fwy o gyfres o ddigwyddiadau nag o stori a'r unig wir ddirgelwch yw, pryd mae o'n cael amser i fynd i'r tÅ· bach.
Y canlyniad Cadwyn o olygfeydd gwyllt, gorffwyll a chynddeiriog sy'n syrffedu rhywun erbyn y diwedd ond yn ennill canmoliaeth y rhan fwyaf o'r beirniaid ffilm oherwydd natur y ffilmio a'r cyffro sy'n cael ei gyfleu.
Dywedodd un beirniad eich bod yn gwybod sut deimlad ydi bod yn engan am ddiwrnod ar ôl bod yn gwylio The Bourne Supremacy gyda'i chyfuniad o ruthr gweledol a cherddoriaeth orddiog.
Y darnau gorau Byddai unrhyw un o'r ymrysonfeydd yn drawiadol ar ei ben ei hun - ond bod gormod ohonynt ar ben ei gilydd gyda'r canlyniad nad yw unrhyw un yn gofiadwy ond popeth wedi toddi i'w gilydd yn y cof yn un dryswch o liwiau swnllwd.
Perfformiadau Mat Damon ydi Mat Damon - yn ddel, yn enigmatig ac yn ddryslyd ei wedd. Ond Joan Allen fel y pen-ysbiwraig sy'n wir enigmatig a Brian Cox hefyd yn wych fel yr ysbiwr sinigaidd o hil gerdd â rhywbeth i'w guddio.
Lle mae yna ddialog mae'n llithrig a chyhyrog - yn enwedig o enau Cox.
Gystal â'r trelar? Ydi - ond ei bod yn hirach gyda mwy a mwy o'r un peth.
Ambell i farn Y farn gyffredinol yw i Paul Greengrass greu ffilm antur o'r radd flaenaf am fyd trofaus a dirgel ysbiwyr.
Mae hyd yn oed ganmoliaeth Mat Damon am fod yn amgenach na del wrth bortreadu Jason Bourne - neu David Webb a rhoi iddo ei enw go iawn cyn iddo golli ei gof.
Yn ôl y Sunday Times mae i'r Bourne Supremacy fwy yn gyffredin â phennod o 24 na'r ffilmiau Bond traddodiadol ond gyda digon o rwygo a thynnu ar y nerfau i gadw dilynwyr 007 yn hapus hefyd.
Yn ôl yr Observer dyma un o'r ffilmiau mwyaf ffrantig i'w gwneud erioed - y camera'n gyson aflonydd a'r golygu yn ymylu ar fod yn 'subliminal'.
Gan gyfleu gwir natur y ffilm cyfeiria'r New Statesman at "yr hela, a'r hela a'r hyd yn oed fwy o hela" gan ychwanegu fod y ffilm yn dibynnu'n llwyr ar gyffro'r helfa o'i chychwyn gwyllt i'w diwedd gwylltach. Ond yn ôl y cylchgrawn, ac eraill, rhinwedd yw hyn ac yn llwyddiant ysgubol yn llaw Paul Greengrass sy'n gyfarwyddwr a ddylai'n awr gael cynnig ar y Bond nesaf meddai.
Rhannu cyfrinach Mae yma rannu cyfrinachau ynglÅ·n a dulliau ysbio. Er enghraifft wrth ddianc o fflat rhag eich erlidwyr, rhwygwch y pibellau nwy yn rhydd o'r wal, rhoi papur newydd yn y peiriant tostio a mwynhau'r ffrwydrad pan ydych hanner ffordd i fyny'r stryd yn dal tacsi i Moscow neu Fieni, neu Goa, neu Foscow . . . neu Faenclochog.
Cwestiwn Fedrwch chi gyfri'r dinasoedd i gyd? Goa, Naples, Munich, Berlin, Moscow, Washington, Llundain, Amesterdam - trueni nad oes yna fws chwarter wedi deg i Flaenllechau ar ddydd Mercher . . .
Gwerth mynd i'w gweld Yn ôl y beirniaid, ydi. Ond be wyddant hwy?
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|