| |
Take the Lead (2006) Ffoli ar y ddawns - a Banderas
Allan ar DVD nawr!
Y sêr
Antonio Banderas, Rob Brown, Alfre Woodard
Cyfarwyddo
Liz Friedlander
Sgrifennu
Dianne Houston
Hyd
117 munud
Adolygiad gan Meleri Sion
Fy hoff ffilm ar hyn o bryd yw Take the Lead ac i ddweud y gwir mae wedi creu argraff arnaf.
Gyda'r actor bendigedig a golygus Antonio Banderas yn chwarae'r prif gymeriad Pierre Dulaine mae'n amhosib i'r ffilm fethu.
Cyffwrdd calonnau Tebyg y byddech yn meddwl nad oes llawer o ddyfnder i'r ffilm ond credwch chi fi, mae'r ffilm yma yn cyffwrdd calonnau drwy sôn am sefyllfaoedd gwahanol yn un o ardaloedd tlotaf America.
Mae'r ffilm yn dilyn dwy stori sydd yn dangos pa mor ffodus ydym ni.
Un o'r problemau yw trais gangiau sy'n ymwneud yn bennaf ag arian a chyffuriau.
Cawn ddarlun clir o realiti anffodus yr ardaloedd tlawd lle caiff pobl eu lladd yn rheolaidd.
Cynnig gobaith Er bod ochr drist i'r stori mae'r neuadd ddawnsio yn cynnig ychydig o obaith ac o hapusrwydd.
Daw athro dawns (Banderas) i'r ysgol i ddysgu plant nad yw'r un athro arall eisiau eu dysgu.
Os ydych chi, fel fi, yn mwynhau gwylio ffilmiau dawns byddwch siŵr o fwynhau'r ffilm gan ei bod yn darlunio dawns fel adloniant cyffrous llawn bywyd a mwynhad.
Mae'r ffilm yn debyg i sawl ffilm ffantastig arall fel Sister Act 2 (Whoopey Goldberg) a Save The Last Dance (Juilia Stiles) ac os bu ichi fwynhau y rheini yr ydych yn siŵr o ddwli ar Take the Lead sydd wedi ei sylfaenu ar stori wir.
Dim ond canmoliaeth Er bod y cast yn cynnwys actorion ifainc anadnabyddus - heblaw am Banderas - ni allaf siarad yn ddrwg am yr un o'r perfformiadau. Maent yn fendigedig.
Gwyliais y ffilm gyda fy chwaer 13 oed a chyda fy mam a gallaf ddweud yn bendant inni ei mwynhau - yn enwedig gyda Banderas yn brif gymeriad.
Byddwn yn argymell Take the Lead i unrhyw un sy'n hoff o Banderas ac o storiâu rhamantus gydag ychydig o ddyfnder.
Ffilm nos Wener fendigedig!
Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 91Èȱ¬ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|