Wedding Crashers Dynion budur mewn glân briodasau
Y sêr Owen Wilson, Vince Vaughn, Rachel McAdams, Isla Fisher, Christopher Walken, Jane Seymour
Cyfarwyddwr David Dobkin
Sgrifennu Steve Faber, Bob Fisher
Hyd 119 munud
Sut ffilm Comedi serch lle mae Jane Seymore 54 oed yn datgelu ei bronnau noeth ar y sgrîn am y tro cyntaf erioed - a'r gynulleidfa yn holi, beth ddaeth ar ben y ddynes yn dewis y ffilm hon i wneud hynny. A pham na chawsom ni weld mwy!
Y stori Mae dau gyfaill, John (Owen Wilson) a Jeremy (Vince Vaughn), wedi perffeithio'r grefft (crefft?) o gael eu derbyn fel gwesteion mewn priodasau nad oes ganddyn nhw hawl bod ynddyn nhw.
Damcaniaeth y ddau, sy'n ymgynghorwyr ysgariad wrth eu galwedigaeth, yw nad oes lle'n byd gwell na phriodas i bigo merch ifanc ddeniadol ar gyfer rhyw unnos.
Hynny mae'n debyg oherwydd eu bod wedi eu swyno gan yr awyrgylch ramantus o'u cwmpas.
Ar gychwyn y ffilm y mae cyfres o olygfeydd o'r ddau wrth eu gwaith fel petai, yn gwthio'u ffordd i amryfal briodasau ac yn cael hwyl iawn yno ymhlith y gwesteion dilys ac wedyn yn hudo merched deniadol i'w gwelyau cyn ei throi hi am adref i gynllunio eu priodas nesaf.
Daw tro ar fyd, fodd bynnag, pan fo Jeremy yn syrthio mewn cariad go iawn â Claire (Rachel McAdams) ym mhriodas chwaer Claire.
I gymhlethu pethau daw John yn ysglyfaeth i Gloria (Isla Fisher), chwaer arall, orffwyll, Claire, nad oes digon o ryw wedi ei greu ar ei chyfer!
Gyda'r naill bartner eisiau aros a'r llall eisiau dianc daw eu perthynas a'u cyfeillgarwch dan straen anhygoel.
Y canlyniad Cyfle coll mewn gwirionedd gan fod Wedding Crashers yn rhy amrwd i weithio fel comedi dyner ond heb fod ddigon cwrs i fodloni'r rhai hynny sy'n dwli ar y beiddgarwch eithaf mewn ffilmiau.
Yn yr ail hanner dirywia'r cyfan yn ddynwarediad salw o Meet the Fockers.
"Un diwrnod fe fyddi di'n edrych yn ôl ar hyn a chwerthin," meddai un o'r cymeriadau. Go brin. Gwenu'n wan efallai. Chwerthin? Na.
Y darnau gorau Canmolwyd gan sawl beirniad y rhan lle mae Gloria yn ymyrryd â Jeremy dan y bwrdd bwyd ond cyfres o olygfeydd comedi digon cyffredin sydd yma.
Perfformiadau Nid yw'r berthynas rhwng Wilson a Vaughn yn gwirioneddol asio ac mae'n anodd cymryd at y cymeriadau er cymaint y mae'r ffilm a'r stori yn dibynnu arnyn nhw.
Does wybod beth ddaeth dros Jane Seymore i ymuno a'r fath lob sgows ac yn enwedig i dorri ar arferiad oes o gadw ei bronnau dan ei dillad.
Os oedd hi am eu rhannu â ni gallai fod wedi dewis achlysur mwy nodedig.
Ceir perfformiadau cwbl dros ben llestri gan Bradley Cooper fel Sack, cariad Claire.
Rhai geiriau "Mae ffrind mewn angen yn rêl pla."
Gystal â'r trelar? Heb weld un.
Ambell i farn Mae'n syndod faint o ganmol sydd yna. "Raucously funny romantic comedy," meddai gwefan ffilmiau y 91Èȱ¬ ac fe roddodd y Wales on Sunday saith allan o ddeg i'r ffilm.
Ond "What a crashing bore" ydi pennawd nes at ei le y Sunday Times - ond go brin fod hynny ychwaith yn gwbl deg gan fod y ffilm rywsut neu'i gilydd yn cadw diddordeb rhywun ac er ei holl ffaeleddau a diffyg steil a chwaeth mae Wedding Crashers yn syndod o hawdd ei gwylio.
Ei diffyg pennaf yw iddi fethu â darganfod y cywair cywir ac i'r stori fynd ormod ar chwâl yn yr ail hanner - heb sôn am y methiant i wneud y ddau brif gymeriad yn rhai y gallwn edmygu. eu beiddgarwch. Dydyn nhw ddim yn argyhoeddi fel dau walch hoffus ar y cychwyn ond yn ddau digon atgas eu hagwedd at ferched.
Y sawl sydd o'r farn mai syniad da wedi ei afradu yw hwn ydi'r sawl sydd agosaf at y gwir.
Gwerth mynd i'w gweld? I osgoi pethau gwaeth, ydi.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|