Wild Hogs (2007) Bois y beics yn chwilio am ddoe
Y sêr
John Travolta, Tim Allen, William H. Macy, Martin Lawrence, Marisa Tomei.
Cyfarwyddo
Walt Becker
Hyd
100 munud
Sut ffilm
Comedi ysgafn sy'n gyfuniad o Easy Rider a City Slickers.
Adolygiad gan Gwion ap Rhisiart
Y stori
Mae Woody Stevens (Travolta), Doug Madson (Allen) Bobbi Davies (Lawrence) a Dudley Frank (Macy) yn griw o ffrindiau canol sydd wedi blino ar eu bywydau.
Yn eu ieuenctid roeddynt yn llawn ysbryd a chyffro ac wedi ffurfio gang beic modur o'r enw The Wild Hogs ond yn awr yn dioddef o greisus canol oed penderfynant ail gynnau fflam y gorffennol trwy wisgo'u siacedi lledr a'u helmedau a mynd ar daith draws gwlad ar eu beiciau modur pwerus.
Er eu golwg galed a gwyllt, a'r bwriad i ymafael a'u bywydau gerfydd eu llwnc unwaith yn rhagor y gwir amdani yw mai dynion canol oed ydyn nhw ac wedi dod i arfer â chysuron bywyd.
Yn ystod eu taith fawr i Galiffornia maent yn cynddeiriogi grŵp arall o feicwyr sy'n llawer mwy milain a chaled na hwy a hynny'n arwain at drafferthion mawr.
Y canlyniad
Disgwyliwn awr a hanner o artaith ond cefais fy siomi ar yr ochr orau.
Er bod y stori a'r rhan fwyaf o'r sefyllfaoedd yn dilyn hen, hen, fformiwla ac ar adegau yn achosi embaras.
Ond mae yma berlau cyson o linellau gwirioneddol ddoniol.
Ond byddai castio ychydig yn wahanol wedi helpu - yn sicr byddai castio Will Ferrell yn lle Tim Allen. wedi bod yn amhrisiadwy.
Rhai geiriau Wrth i'r gang o feicwyr cas gyrraedd mae cymeriad Tim Allen yn gofyn i'r heddwas cefn gwlad eu hamddiffyn. "Chi yw'r Sheriff ! Ydych chi am roi help llaw i ni?"
A'r heddwas yn ateb; "Yli, fe wnes i fy nghymhwyster Cadw'r Heddwch ar y We! Ac fe ges i fy hyfforddiant i ddelio ag arfau drwy chwarae'r gêm [gyfrifiadur] Doom!"
Wedi iddyn nhw herwgipio cymeriad Macy, mae'r criw yn mynnu arian am ei ddychwelyd. "Rydych chi'n mynd i dalu ffi o $10,000 a $40,000 arall am ail adeiladu ein bar, neu mi fyddwn yn torri coesau'ch ffrind."
Ac meddai Macy: "Peidiwch dod a'r arian! Rhaglennydd cyfrifiadurol ydw i! Dwi ddim angen fy nghoesau..."
"Iawn," meddau'r herwgipiwr. "Felly mi falwn ni ei ddwylo"
Perfformiadau Mae comedi John Travolta yn aml dros ben llestri tra byddai perfformiad cynilach wedi bod yn well.
Fel y gwelwyd yn y ffilm The Cooler a Mystery Men, mae William H. Macy yn gywrain iawn mewn rôl sy'n ei bortreadu fel dyn sydd wedi ei dorri ac wedi colli ei sbarc a llwydda i greu cymeriad tebyg iawn yma.
Perfformiad hoffus gan Marisa Tomei. Mae'n syndod nadyw'n cael mwy o waith yn Hollywood.
Darnau gorau
Y canwr bach merchetaidd yn canu Don't cha wish your girfriend was hot like me gan fand y Pussycat Dolls.
Ambell i farn
Mae'r Premiere yn feirniadol iawn o'r ffilm gan feio ei diffyg gwreiddioldeb sylfaenol. Dywed hefyd nad yw cyfuniad o brif actorion yn gweithio ychwaith.
Gwerth ei gweld?
Er bod rhannau helaeth o'r ffilm nad ydynt yn gweithio - yn enwedig y thema gwrth hoyw sy'n amlwg yn ystod yr hanner cyntaf - cewch eich gwobrwyo os ewch i mewn heb ddisgwyl llawer!
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|