Lust, Caution (2008) Ar wahân i'r rhyw . . .
Y sêr
Tony Leung; Wei Tang
Cyfarwyddo
Ang Lee
Ysgrifennu
Eileen Chang; James Schamus. Wedi ei seilio ar stori fer.
Hyd
157 munud
Adolygiad Gwion ap Rhisiart
Sut ffilm
Stori garu ymhlith ysbiwyr a chynllwynio yn ystod ymosodiad y Siapaneaid ar China adeg yr Ail Ryfel byd. Cyfarwyddwyd gan Ang Lee, oedd hefyd yn gyfrifol am Brokeback Mountain a Hulk.
Anaddas i blant gyda'i golygfeydd rhywiol diamwys.
Y stori
Yng nghanol hinsawdd gormesol y cyfnod, roedd grŵp o fyfyrwyr yn teimlo y gallant gyfrannu rhywfaint at ryddhau China o afael cadarn y Siapaneaid ac yn mynd ato i gynllwynio i ddienyddio gwleidydd o China sy'n gweithio ar ran y Siapaneaid.
Mae un o'r criw, merch ifanc o'r enw Wong Chia Chi (Tang) yn cytuno i dreiddio i fywyd gwleidydd pwerus, Mr Lee (Leung) er mwyn ei dywys i fan lle all y criw ei ladd.
Nid yw'r cynllwyn yn gweithio ac mae'r ddelfryd naïf yn eu rhoi mewn lle difrifol a pheryglus.
Y canlyniad
Campwaith weledol gyda sylw anhygoel i fanylder. Mae'r stori'n un bwerus a thrist iawn. Ond mae hi'n ffilm ychydig yn hir yn enwedig o gofio mai stori fer oedd hi!
Gellid fod wedi dweud yr hanes mewn llai o amser yn enwedig gan fod yn ailadrodd yn y rhan am y ferch yn hudo Mr Lee.
Ond rwy'n falch imi ei gweld gan imi ddysgu am y gwrthdaro rhwng China a Siapan yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Ambell i farn
• "Mae Lust, Caution yn thriller gwych [ac] yn archwiliad pwysig i genhedlaeth ranedig rhieni Ang Lee...Mae'n fuddugoliaeth i sinema rhyngwladol," meddai Phillip French yn The Observer.
• Cafodd bedair seren gan y cylchgrawn Empire a'i disgrofiodd fel; "Stori hirfaith sydd wedi'i dweud yn brydferth. Mae hefyd yn stori am ddial a brad yng nghyd-destun anghyfforddus paranoia rhyfel ac yn llwyddo i'ch bodloni."
Perfformiadau
• Mae Tony Leung a Wei Tang, y prif gymeriadau, yn wefreiddiol a dewr. Mae'r golygfeydd rhywiol a drafodwyd yn helaeth yn y wasg yn sicr yn arloesol i actorion o China ac rwy'n gobeithio na niweidir eu gyrfaoedd o ganlyniad - yn enwedig yn eu mamwlad.
Darnau gorau
• Wrth i'r tensiwn gynyddu, y golygfeydd cyffrous yn y siop gemwaith. Nid yw'n cael ei or chwarae - ond fe allai fod wedi para ychydig yn hirach gan ei fod yn binacl y ffilm mewn un ystyr.
• Hoffais un o'r golygfeydd cyntaf o bedair menyw yn hel straeon a chlebran am eu gwŷr a'u cyfoedion tra'n chwarae'r mahjong.
• Mae'r golygfeydd ar y strydoedd yn dangos y milwyr Siapaneaidd yn arddangos eu grym i'r Chineaid yn bwerus ac yn effeithiol. Mae'r sylw i fanylder yn anhygoel.
Gwerth ei gweld?
Bydd natur a hyd y stori yn rhwystr i lawer ond pe byddai oedolion aeddfed yn fodlon dyfalbarhau byddant yn cael eu gwobrwyo â phrydferthwch, gonestrwydd a dewrder y ffilm.
Mae'n drueni i Lust, Caution gael cymaint o sylw ar sail y golygfeydd rhywiol yn unig gan fod hynny'n taflu cysgod dros weddill y ffilm.
|
|