Casino Royale Bond newydd yn cyrraedd y nod
Y sêr
Daniel Craig, Eva Green, Mads Mikkelsen, Judi Dench, Jeffrey Wright, Giancarlo Giannini
Cyfarwyddo
Martin Campbell
Hyd
144 munud
Adolygiad Carys Mair Davies
Byddai'n rhaid ichi fod wedi byw dan gragen i beidio a gwybocd am y ffilm James Bond ddiweddaraf, Casino Royale - yr unfed ffilm ar hugain yn y gyfres. Bu llawer o feirniadu a chanmol a siarad ers misoedd ac fel ffan mawr o ffilmiau James Bond fe es i weld Casino Royale.
Y stori
Cafodd y ffilm newydd ei seilio ar y nofel James Bond gyntaf gan Ian Fleming lle mae Bond yn ennill ei statws 00 ac wedyn yn mynd ar ôl bancer i fudiadau terfysgol sy'n golygu ymweliadau â Madagascar, y Bahamas, Montenegro, yr Eidal a Miami.
Y Bond newydd
Bu cryn feirniadaeth ar y dewis o Daniel Craig. Rhai'n dweud na fyddai Bond pryd golau gyda llygaid glas yn gredadwy yn dilyn actorion pryd tywyll fel Pierce Brosnan a Sean Connery.
Ond ar ôl gweld y ffilm nid oes amheuaeth fod Daniel Craig yn Bond penigamp gan ddod â miniogrwydd i'r cymeriad a fu ar goll ers cyfnod Sean Connery.
Mae'n gryf, yn gorfforol iawn ac hyd yn oed yn eithaf oeraidd o ran cymeriad.
Mae 'M' yn ei ddisgrifio fel blunt instrument.
Y Cymeriadau
Nid yw ffilm Bond yn ffilm Bond heb y merched a'r rheini yn byw yn ôl rheolau gwahanol i'r gweddill ohonom a chanddynt enwau awgrymog fel Plenty O'Toole, Holly Goodhead a Christmas Jones.
Maent yn gwisgo beltiau gwynion gyda bicinis (Ursula Andress yn Dr No a Halle Berry yn Die Another Day
Mae eu gwalltiau bob amser heb flewyn o'i le a'u dillad yn anwesu'u cyrff. Ymddangosant yn y ffyrdd mwyaf godidog ac yn Casino Royale mae un yn cyrraedd yn ei bicini gwyrdd ar gefn ceffyl gwyn.
Dwy ferch sydd yn Casino Royale ond byrhoedlog yw cyfnod Caterina Murino gerbron y camerâu wedi iddi hudo James Bond gyda'i llygaid siocled a'i gwallt lliw'r fran ond i gael ei harteithio a'i lladd gan ei gŵr - a gelyn y ffilm - Le Chiffre a chwaraeir gan Mads Mikkelsen.
Yr ail ferch yw Vesper Lynd (Eva Green).
Mae'n hi'n gwneud i Bond gwympo dros ei ben a'i glustiau mewn cariad â hi ond i ddarganfod mai ei ddefnyddio oedd hi.
Gelynion cofiadwy Nid yw ffilm Bond yn ffilm Bond heb elynion cofiadwy ychwaith. Le Chiffre yw'r gelyn pennaf yma ac wedi ei ddisgrifio fel gelyn mwyaf peryglus y gyfres - ond nid wyf yn cytuno â hynny gan mai un eithaf tawel yw Le Chiffre sy'n cyflogi eraill i wneud ei waith brwnt drosto. Nid yw'n cymharu o gwbl â gelynion fel Jaws yn The Spy Who Loved Me.
Y Teclynnau
Bu ffilmiau Bond yn enwog am y teclynnau difyr a ddarperir gan Q ar gyfer yr arwr ond er mawr siom nid oes Q heb sôn am declynnau yn Casino Royale a dyma i mi ddiffyg mawr y ffilm.
Y farn
Yn fy marn i, mae Caino Royale - yr un mor wych â'r ffilmiau eraill.
Mae sawl llinyn yn gweu drwy'i gilydd gan greu campwaith gymhleth ond trawiadol iawn gydag elfennau stori dditectif, stori antur, stori serch a stori o greulondeb a ffyrnigrwydd.
Mae'r actio a'r cynhyrchu yn well na'r disgwyl ac ni ddylai unrhyw ffan James Bond golli hon.
Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 91Èȱ¬ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad arall
Adolygiad Dylan Davies
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|