Che: Part One - 2008 Chwyldro - o safbwynt Che
Y Sêr:
Benicio Del Toro, Demián Bichir, Julia Ormond
Cyfarwyddo:
Steven Soderbergh
Sgwennu:
Addasiad sgript Peter Buchman o'r llyfr Reminiscences of the Cuban Revolutionary War gan Ernesto "Che" Guevara
Hyd:
126 munud
Adolygiad Lowri Haf Cooke
'Nôl yn 2004, rhyddhawyd The Motorcycle Diaries gan y cyfarwyddwr o Frasil, Walter Salles; ffilm hwyliog a hynod deimladwy am daith Ernesto 'Che' Guevara a'i ffrind gorau yn mwynhau 'blwyddyn allan' yn teithio ar hen feic modur trwy rai o wledydd De America cyn wynebu realiti bywyd myfyrwyr meddygaeth.
Deffroad gwleidyddol Gael Garcia Bernal chwaraeodd Che bryd hynny, a chafwyd portread deallus iawn o ddyn ifanc breintiedig sy'n profi deffroad gwleidyddol wrth weld cymaint o bobl yn byw dan orthrwm.
Er nad oes raid ichi fod wedi gweld y ffilm honno cyn gweld Che: Part One fe fyddai rhywfaint o ddealltwriaeth o gefndir y chwyldroadwr o'r Ariannin yn ddefnyddiol iawn gan nad biopic yn yr ystyr arferol yw'r ffilm hon.
Penderfynodd yr Auteur Americanaidd, Stephen Soderbergh, ganolbwyntio'n bennaf ar frwydyr y criw bychan o gynllwynwyr - dan arweiniad Fidel Castro - i gipio awennau llywodraeth bwdr Fulgencio Batista, Ciwba, ac ysbrydoli cenedl gyfan i sefyll yn gadarn yn erbyn grymoedd imperialaidd yr Unol Daleithiau.
Pob cam o'r ymgyrch Ymhlith y gwrthryfelwyr mae'r Dr Ernesto Guevara (Benicio Del Toro) a dilynwn bob cam o'r ymgyrch o gyfarfyddiad cyntaf 'Che' Guevara â Fidel Castro (Demián Bichir) dros swper mewn apartment yn Ninas Mecsico ym 1955, i'r fordaith beryglus gan 82 o chwyldroadwyr i ynys Ciwba hyd at y brwydro diflino ym mynyddoedd y Sierra Maestra cyn cipio dinas Santa Clara ym 1959.
Daw rhan gyntaf y stori i ben, felly, gyda Che yn arwain gorymdaith i ddinas Havana gyda'r bwriad o sefydlu cymdeithas yn seiliedig ar gyfiawnder economaidd a rhyddid i bawb.
Fflachiadau Yn cydredeg â'r digwyddiadau lliwgar hyn ceir fflachiadau achlysurol i'r dyfodol megis ymweliad Che â'r Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd ym 1964.
Cyflwynir y rhan yma mewn arddull cinéma vérité du a gwyn gyda chyfweliad ABC rhwng Che a'r newyddiadurwraig Lisa Howard (Julia Ormond) yn brif ffocws ac yntau'n rhannu ei brofiad o'r ymgyrch, ei deimladau am y term "Chwyldroadwr", a'i weledigaeth ar gyfer ynys Ciwba a thu hwnt.
Mae ei atebion ystyrlon a deallus yn droslais i'r cyrchu cronolegol ac o gymorth wrth dorri rhywfaint ar yr ymgyrch faith o ddinas Mecsico i Havana.
Y chwyldro nid y dyn Cyflwynir hyn oll o safbwynt Che Guevara ond, eto, rhaid pwysleisio mai cofiant o'r chwyldro yn hytrach na'r dyn ei hun a geir yma.
Caiff ei ddarlunio fel meddyg a dyn deallus a gwelwn mai ei arbenigedd meddygol a'i natur ddyngarol sydd yn ennyn parch ymhlith ei gyd-filwyr a'r werin ddifreintiedig.
Down i ddeall hefyd sut yr enillodd ei sgiliau tactegol a'i ddawn ymennyddol ymddiriedaeth a pharch Fidel Castro.
Heb os, dehongliad canmoliaethus o'r 'eicon ar waith' a gawn ac yn hynny o beth dydy Soderbergh ddim yn caniatau inni weld llawer o'r dyn ei hun.
Yn wir, yn ôl y cynhyrchiad hwn, unig wendid yr arwr o'r Ariannin oedd ei asthma ac anghofiwch unrhyw awydd i fusnesa yn ei fywyd preifat; dim ond yn chwarter ola'r ffilm y clywn fod ganddo wraig a phlentyn ym Mecsico!
Yn drylwyr Does dim dwywaith fod yma ôl ymchwil trylwyr iawn ond mae'r ffilm yn gofyn cryn dipyn gan y gwyliwr sy'n gorfod canolbwyntio am dros ddwyawr.
Ond yn ffodus, mae'r actor o Puerto Rico, Benicio Del Toro - yma'n cynhyrchu hefyd - yn ddewis perffaith fel y chwyldroadwr deallus ac yn bresenoldeb trydanol gydol y ffilm.
Gobeithio y cawn ddod i'w adnabod y dyn ei hun rywfaint yn well yn Che: Part Two a fydd yn y sinemâu ddiwedd Chwefror.
|
|