Star Wars III Revenge of the Sith
Dechrau dechrau'r dechrau - o'r diwedd
Y sêr Ewan McGregor, Hayden Christensen, Natalie Portman, Ian McDiarmid, Samuel L Jackson
Cyfarwyddwr George Lucas
Sgrifennu George Lucas
Hyd 140 munud
Sut ffilm? Y math o ffilm y bydd pobl yn heidio i'w gweld - waeth beth a ddywed y beirniaidac y mae rhai yn dweud pethau digon cas.
Y stori Mae hanes ffilmiau Star Wars yn stori ynddi'i hun gyda'r bedwaredd bennod wedi'i gweld gyntaf wyth mlynedd ar hugain yn ôl yn 1977 a'r bennod gyntaf yn bedwaredd ffilm a hon, y drydedd bennod, yn chweched ffilm!
Beth bynnag, mae'r cyfan drosodd gyda Revenge of the Sith, y drydedd bennod yn yr hanesa phen y mwdwl wedi'i gau.
Unwaith y bydd hon ar DVD bydd yn bosibl dilyn y stori o'i chwr fel a ganlyn: 1 The Phantom Menace 2 Attack of the Clones 3 Revenge of the Sith 4 Star Wars 5 The Empire Strikes Back 6 Return of the Jedi
Ond a fydd hynny gymaint o hwyl a'r drefn sinema sy'n gwestiwn arall - er i The Phantom Menace ac Attack of the Clones fod yn ffilmiau hynod siomedig a salw.
Gwneud pethau'n glir Prif bwrpas y bennod hon yw dangos cychwyn Darth Vader ond eglurir hefyd pwy yn union oedd Luke Skywalker a Leila .
Yn y ffilm dilynir hanes Anakin Skywalker (Hayden Christensen) (yn cael ei ddenu i'r ochr ddu trwy gyfrwystra y dichellgar Ganghellor Palpatine (Ian McDiarmid) sydd a'i fryd ar reoli pawb a phopeth yn y Galaeth.
Yn ceisio cadw Anakin ar lwybr cul y Jedi anrhydeddus, mae y ferch sy'n feichiog iddo, Padme (Natalie Portman) a'r marchog Jedi cyfiawn ac arwrol, Obi-Wan Kenobi (Ewan McGregor).
Yr arch elyn arall ydi'r anhygoel General Grievous sy'n arwain byddin ddifäol yr android.
Y canlyniad Er yn llawer iawn gwell na'r disgwyl o ran stori y golygfeydd a'r brwydrau sy'n gwneud hon yn ffilm gwerth chweil.
Mae'n arddangos dyfeisgarwch hynod o safbwynt golygfeydd, cymeriadau peiriannol, anifeiliaid, offer a pheiriannau nes bo'r ffilm er yn hir yn mynd rhagddi ar garlam gwyllt.
Y stori garu sydd wannaf ac er i un cylchgrawn ein hannog i gofio am ein ffunen boced dydi gwewyr serch Anakin a Padme ddim yn cyffwrdd.
Rhoddir llawer gormod o amser i sgyrsiau dwys a digynnig rhwng Anakin a Padme.
Y darnau gorau Y brwydrau i gyd ond yn enwedig yr ornest a'r ymlid rhwng Obi-Wan a Grievous.
Trawiadol hefyd yw ymladdfa olaf Anakin.
Y blaned sy'n fôr o dân.
Gweddnewidiad Palpatine.
Perfformiadau Peiriant a dihiryn sy'n haeddu'r llawryfon.
Mae Grievous, er yn beiriant, yn wych o ran symudiadau ac ymarweddiad. Mwy o gymeriad na rhai o'r actorion meidrol.
Ni ellir ond canmol McDiarmid fel y dieflig ddichellgar Ganghellor Palpatine sy'n cychwyn fel gŵr o anrhydedd ond yn dirywio'n araf i ddatgelu ei wir gymeriad. Dyma wir berfformiad y ffilm.
Siomedig yw Portman fel Padme cwbl ddiflas a di blwc.
Daw Yoda, fodd bynnag, a hiwmor i sawl golygfa er bod ei siarad chwithig yn dechrau mynd yn ddiflas.
Rhai geiriau Pe byddai Lucas chwarter mor ddyfeisgar gyda'i sgrifennu ag yw gyda'i effeithiau technegol byddai'n rhaid dyrchafu Revenge of the Sith i'r uchelfannau.
Yn anffodus sgwennwr y tu hwnt o ystrydebol ydi o heb liw na chic i'w ddeialog.
"Dydw i ddim yn dy adnabod di mwyach," meddai Padme mewn llinell a fu at iws sawl ffilm cyn hyn.
"Rhaid inni symud yn sydyn," meddai sawl un!
"Mi elli di a minnau reoli'r Galaeth," yw cyfraniad Palpatine o'r un cwpwrdd.
Ond rhaid oedd gwenu gyda'r llinell, "Get a miracle capsule right now," pan yw Anakin ar farw.
Gystal â'r trelar? Heb os.
Ambell i farn
Ond yn ôl gwefan Saesneg y 91Èȱ¬ dyma'r ffilm y bu ffyddloniaid Star Wars yn ysu ac yn gweddïo amdani.
"Cylchgrawn gwyliau o leoliadau galaethol newydd" meddai'r adolygydd gan dynnu sylw arbennig at Grievous fel dihiryn.
"Cawn yn Revenge of the Sith yr hyn oeddem ei eisiau o'r cychwyn cyntaf."
Ond dywed Mark Kermode yn y New Statesman fod "y Galaeth pell, pell, i ffwrdd yn uffern ar y ddaear i'w gwylio" a'r ffilm yn llawn gwendidau.
Cyhudda'r holl 'prequels' o ladd a thagu'r Star Wars gwreiddiol a go brin y byddai neb yn anghytuno a hynny yn achos Menace a'r Clones ond hoffai rhai ohonom feddwl fod Revenge yn tra rhagori ar y rheini.
Gwerth mynd i'w gweld? Ewch i gael eich dychryn gan yr Hwdis Galaethol yna!Ac i benderfynu pa Star Wars yw'r orau - ein dewis ni ydi The Empire Strikes Back
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|