91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Adloniant
Catherine Zeta-Jones
Catherine Zeta-Jones

Ganwyd: 25 Medi 1969

Magwyd: Abertawe

Addysg: Ysgol Dumarton, Abertawe


Actores, ac un o sêr mwya' Hollywood.

Wyddech chi?: Fe brynodd Michael Douglas ei modrwy briodas yn Aberystwyth. Mae Catherine hefyd yn gyn bencampwraig dawnsio tap Prydain.

Mae'r ferch hon o Abertawe wedi ennill statws seren yn Hollywood a bellach mae'n fam am yr eildro i Carys.

Cyn geni'r fechan, fe enillodd Catherine wobr Oscar am ei rhan yn y ffilm gerdd 'Chicago' gan guro sawl un profiadol arall.

Yn ferch i Pat a Dai Jones, mae ganddi ddau frawd hefyd a'r ieuengaf ydy rheolwr Catherine.

Enw canol Catherine ydy Zeta ar ôl ei nain a enwyd yn ei thro ar ôl llong ym mae Abertawe.

Fe aeth ar y llwyfan gyntaf yn bedair oed mewn cynhyrchiad yn yr eglwys leol ac yn fuan iawn fe ddatblygodd Catherine gariad at ganu a dawnsio, cariad a fyddai yn ei dro yn ei harwain i Hollywood.

Yn ddeg oed, roedd hi'n seren yn y sioe gerdd 'Annie' yn Theatr y Grand Abertawe. Fe ddaeth ei chyfle mawr yn 1983 pan welwyd hi gan un o sêr y 'Monkees Mickey Donlenz' ac fe'i gwahoddwyd hi wedyn i gymryd rhan mewn cynhyrchiad yn Llundain 'The Pyjama Game'.

Yn Llundain, aeth i weithio ar y sioe '42nd Street'. Pan orffennodd y sioe aeth Catherine i Ffrainc i ymddangos yn ei ffilm gyntaf 'Scheherazade'.

Ond roedd popeth ar fin newid pan gafodd yr actores gyfle i ymddangos mewn addasiad o nofel H E Bates 'Darling Buds of May'. Roedd y gyfres yn llwyddiant ysgubol gan ddod ag enw Catherine i sylw pawb.

Er hynny, doedd ei ffilmiau cyntaf ddim yn llwyddiant mawr. Yn 1996 roedd hi'n gweithio ar gyfres fer Americanaidd 'Titanic' ac yn ei sgîl cafodd gynnig prawf sgrin ar gyfer 'The Mask of Zorro' a rhan Elena de la Vega.

Fe ddigwyddodd dau beth wrth wneud y ffilm hon. Esgorodd ei llwyddiant ar gynigion mawr eraill ac fe gyfarfu â seren mawr arall sef Michael Douglas. Erbyn nos Galan roedd y ddau wedi dyweddïo ac fe nododd Michael Douglas yr achlysur efo clamp o fodrwy gwerth £2 filiwn.

Yn Awst 2000, rhoddodd enedigaeth i fab, Dylan, ac yn Hydref yr un flwyddyn daeth â'r baban i Abertawe i gyfarfod ei theulu.

Yn Nhachwedd 2000 priododd y ddau yn y Plaza Efrog Newydd gan dderbyn modrwy o orllewin Cymru. Ymhlith y gwahoddedigion oedd Anthony Hopkins, Stephen Spielberg, Sean Connery a Michael Caine. Amcangyfrifwyd i'r cyfan gostio miliynau ond fe dalwyd peth o'r gost gan hawliau lluniau cylchgronau poblogaidd.

Mae Catherine wedi actio mewn sawl ffilm boblogaidd arall megis 'Entrapment', 'The Haunting', 'High Fidelity' a 'Traffic'. Mae'r cyfan wedi ennill pres mawr sy'n galluogi Catherine ei hun bellach i hawlio miliynau am bob ffilm ar sail ei henw.

Yn 2002 dewiswyd Catherine fel wyneb y cwmni colur Elizabeth Arden ac fel llefarydd hysbysebu y cwmni ffôn symudol T-Mobile International. Ar 24 Hydref 2002 cyhoeddodd Catherine ei bod yn disgwyl ei hail blentyn. Ganwyd merch iddi o'r enw Carys ym 2003.

Yn rhestr y Sunday Times 2002 o'r rhai hynny sy'n ennill fwyaf, mae Catherine yn ail wrth ennill £20 miliwn y flwyddyn.

Ym Medi 2004 y mae Catherine Zeta-Jones yn ymddangos ochr yn ochr â'r actor Tom Hanks mewn ffilm gomedi rhamantaidd, 'The Terminal'. Er nad yw'r actores ei hun yn cael adolygiadau ffafriol iawn am ei pherfformiad, mae'r ffilm, sy'n cael ei chynhyrchu gan Steven Spielberg, yn profi i fod yn boblogaidd yn y sinemâu. Ewch i ddarllen adolygiad o The Terminal.

Ei munud fawr: Yn dilyn ei llwyddiant ar Darling Buds of May, fe sicrhaodd Catherine enwogrwydd wrth briodi aelod o un o deuluoedd brenhinol Hollywood.

Yn answyddogol: Gweithiodd efo Anthony Hopkins ar y fersiwn gerddorol o 'Spartacus' ond roedd yn aflwyddiannus iawn!


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!
Beth yw eich barn am Catherine Zeta Jones a'i ffilmiau diweddara'? Dwedwch wrthon ni yma!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý