91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Wylan
Y diweddar Bill Pike Colli Cymwynaswr
Mehefin 2007
Syfrdanwyd Port a'r cyffiniau fore dydd Mawrth, Mai 8fed gyda'r newydd trist am farwolaeth Bill Pike yn sydyn ac annisgwyl yn ei gwsg yn ystod y nos.
Roedd yn un o gymwynaswyr mawr ein tref. Bu'n hael iawn ei gefnogaeth i bob math o chwaraeon, mudiadau ac achosion da yn ein cymuned. Gedy fwlch mawr ar ei ôl yn ein cymdeithas.

Bu'n gefnogwr brwd i Glwb Pêl-droed Port ers 1944 ac yn Llywydd ac yn Ymddiriedolwr y Clwb ers 1967. Bu'n hael iawn i'r Clwb dros y blynyddoedd trwy gyfrannu yn ôl yr angen at y 'stand', y llifoleuadau a'r crysau i'r chwaraewyr ymhlith pethau eraill.

Bu'r un mor frwd gyda'r Clwb Golff lle bu'n Gapten yn 1968 ac yn cyflwyno cwpan - Cwpan Fairways - yn flynyddol. Fe erys y Gwpan yn goffadwriaeth iddo i'r dyfodol.

Bu'n gefnogol iawn, ac yn hael hefyd, i'r Clwb Criced. Nid anghofiodd mai oherwydd y cyswllt â chriced y daeth ei daid i'r Port yn 1902 o Keyworth, Swydd Nottingham. Roedd yn gricedwr proffesiynol ac fe ddaeth i'r cylch yma er mwyn cynorthwyo'r Clwb Criced lleol bryd hynny.

Bu'n gefnogol iawn hefyd i'r Clwb Bowlio.

Bu'n gefnogol iawn ac yn hael i weithgaredd yr ysgolion lleol ac fe ddeuai ei hoffter a'i gefnogaeth i blant i'r amlwg bob amser.

Roedd y capeli lleol hefyd yn golygu llawer iddo - Capel Nasareth, Morfa Bychan oedd ei gapel yn nyddiau ei blentyndod. Ar ôl hynny bu'n aelod yng Nghapel y Garth ac wedi i gapeli'r Garth a'r Tabernacl ymuno, bu yr un mor ffyddlon a chefnogol yng Nghapel y Porth.

Bu'n hael i'r achosion hyn i gyd fel ag i lawer capel arall yn y cylch. Bu'n eithriadol o hael i Gapel y Porth a'r haelioni hwnnw yn aml iawn o'r golwg. Roedd yn amlwg fod ei gapel yn agos iawn at ei galon ac roedd am fynnu gweld llwyddiant a dyfodol i'r Gwaith.

Gwasanaethodd ein cymuned yn Siop Pike, Stryd Fawr am bum deg pump o flynyddoedd. Yn wir, bu'r siop yn y teulu ers cant a phedwar o flynyddoedd!

Prynwyd y siop gan ei daid, William Pike, yn 1903. Bryd hynny gwerthwyd pob math o nwyddau ar gyfer chwaraeon yno ynghyd â phapur newydd, sigarets a baco. Fe'i dilynwyd yntau gan ei fab, Noel, a ddatblygodd y busnes bryd hynny yn fusnes torri gwallt yng nghefn y siop a'i ferch, y ddiweddar, Doris, chwaer Bill, yn ei helpu gan dorri gwallt merched.

Bu Noel Pike fyw i oedran teg o 98 ac fe gofia llawer ohonom ei weld yn y siop cyn ei farw yn 1999. Erbyn 1949 roedd Bill yntau wedi dechrau gweithio yn y siop. Yn 1950 bu raid iddo fynd i'r Llu Awyr ac wedi marw William Pike, y taid, yn 1951 daeth Bill yn ôl i'r Port yn 1952 i fod yn bartner gyda'i dad yn y siop.

Dros y blynyddoedd bu iddo yntau ddatblygu'r siop. Yn ystod y chwedegau ymledodd o werthu baco a sigarets ei hun i fod yn ddosbarthwr hefyd i'r nwyddau hyn i siopau eraill.

Yn ystod y saithdegau fe ymledodd ymhellach i werthu nwyddau a fyddai o gymorth i ymwelwyr - te, siwgr a bisgedi. Ond yn bennaf dros y blynyddoedd Siop Bapur Newydd yw Siop Pike a hynny'n golygu y byddai Bill yn codi am 4 y bore i ddod a'r papurau i mewn am 4.30 ac yn agor am saith bob bore ar hyd y flwyddyn oni bai am fore'r Nadolig.

Hyfryd yw meddwl y bydd Siop Pike yn parhau yn y teulu wedi dyddiau Bill. Gadawodd Meryl ei ferch, ei swydd yn y banc ddechrau'r nawdegau er mwyn bod gyda'i thad yn y siop. Mae Meryl yn annwyl iawn yng ngolwg pawb ohonom ac yn parhau traddodiad da y teulu mewn gwasanaeth, cymwynasgarwch a charedigrwydd, a hynny bob amser gyda sirioldeb.

Roedd Bill yn batrwm o siopwr. Ei gyfrinach oedd ei ddiddordeb mawr mewn pobl. Fel gŵr ei 'filltir sgwir.' Roedd Bill yn adnabod ei ardal a'i phobl a'r bobl hefyd yn ei adnabod yntau ac yn hoff iawn ohono. Byddai pawb yn cael croeso ganddo yn ei siop. Byddai bob amser yn foneddigaidd ac yn gwrtais. Byddai Siop Pike yn fan cyfarfod i lawer ac yn fan seiadu brwd ar adegau o bob diwrnod.

Byddai gan Bill farn bendant ac argyhoeddiadau cryfion ar faterion lleol a chenedlaethol ac ni fyddai'n fyr o fynegi'r farn honno. Fe gofia llawer ohonom am sgyrsiau difyr a diddorol yn ei gwmni.

Wrth fynd i'r siop byddem bob amser yn ymwybodol o ymdeimlad o deulu ymhlith y 'staff'. Byddai Bill yn werthfawrogol iawn o'i weithwyr ac yn hael tuag atynt a byddent hwythau yn rhoi o'u gorau iddo bob amser.

Fe gofiwn i gyd am gymwynasau tawel Bill Pike ac am ei haelioni mawr i sefydliadau a mudiadau lawer yn y Port. Fe gofia llawer ohonom hefyd am ei haelioni yn bersonol - haelioni nas gŵyr neb arall amdano.

Daeth tyrfa fawr iawn i'w angladd yng Nghapel y Porth ar ddydd Llun, Mai 14eg. Gwasanaethwyd yno gan y Parchedigion Gareth Edwards, Iwan Llewelyn Jones, Dewi Morris, Iorwerth Jones-Owen a'r Canon Michael Tomkins. Fe gofir yn hir iawn am ddatganiad Mr Glyn Roberts o 'Gorws yr Haleliwia' yn ystod y Gwasanaeth. Fe'i rhoddwyd i orffwys ym Mynwent Treflys.

Estynnwn ein cydymdeimlad cywiraf a Meryl a Dafydd a'r plant, ag Ann, Marnel, Dilwyn a'r plant, a Harri, Cynthia a'r bechgyn ac a theulu'r ddiweddar Doris.

  • Sgwrsio gyda Bill Pike yn 2006

  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý