Mewn seremoni arbennig cyflwynwyd y fedal aur i Lois ar gyfer prif wobr actio'r Guildhall ar gyfer blwyddyn 2008-2009. Golyga hyn y bydd ei henw yn cael ei osod yn barhaol ar restr yr enillwyr ym mhrif gyntedd y Guildhall ochr yn ochr ag enwogion megis Bryn Terfel a enillodd yr un wobr ym maes canu yn ystod ei gyfnod ef yn yr un coleg.
Mae Lois eisoes wedi cael profiad o actio mewn cynyrchiadau megis drama 'Stanley', y ddrama gerdd 'Damm Yankies' a 'Hard Times' Charles Dickens. Bellach, a hithau wedi gadael y Guildhall ac yn dechrau gweithio mae'n actio yn y cynhyrchiad 'Miss Marple', sef ei gwaith cyntaf ar ôl graddio.
Dywed Lois, 'mae hi'n fraint fawr gweld fy enw'n barhaol ar wal y prif gyntedd yn y Guildhall. Rydw i'n sicr yn teimlo mod i wedi bod yn lwcus i ennill y wobr gan gofio lefel y gystadleuaeth. Mae
pob un profiad wedi bod yn dda i mi ac yn ychwanegiad pendant i'r Cv. Yn y dyfodol byddwn wrth fy modd yn cael gwaith parhaol hefo'r theatr genedlaethol a chael y cyfle a'r profiad o weithio mewn pob math o feysydd fel actores.'
Dywedodd Ian ei thad, 'mae Kay a minnau yn falch iawn o lwyddiannau Lois ac yn ddiolchgar iawn i bawb sydd
wedi ei chefnogi a rhoi ystod ei gyrfa.'
Llongyfarchiadau hefyd i hen nain Lois, Meirwen Jones, ar ei phen-blwydd yn gant oed fis Gorffennaf. Bu Meirwen hefyd ar un cyfnod yn cael llwyddiannau lu ym myd y canu - mae'n amlwg fod Lois yn dilyn ôl troed y teulu.
Rydym ninnau ddarllenwyr Yr Wylan yn falch iawn o'r llwyddiant arbennig hwn. Pob dymuniad da i ti yn y dyfodol!
|