Ysbyty Alltwen Mai 2008 Ar ôl yr hir ddisgwyl a'r brwydro di-ddiwedd i geisio sefydlu ysbyty newydd, rydym o fewn ychydig fisoedd yn unig o weld Ysbyty Alltwen yn agor ei drysau i gleifion.
Yn wir, y nod ydyw ceisio gorffen y gwaith erbyn mis Awst fel y gall y gwaith paratoi fynd rhagddo cyn i'r cleifion cyntaf gael eu derbyn ym mis Medi/Hydref.
Mae'r ysbyty wrth gwrs yn adeilad cwbl newydd ac felly yn ôl y disgwyl, mae'n cydymffurfio a holl ofynion Iechyd a Diogelwch, Diogelwch Tân, cyfleusterau i'r anabl ac ati.
Bydd yn cynnwys tua 30 o welyau ac ni fydd mwy na 4 gwely mewn ward. Mae'r ystafelloedd sengl i gyd yn 'en suite'.
Mae ystafelloedd wedi eu paratoi yn arbennig ar gyfer Pelydr-X, ffisiotherapi ac ati a bydd meddygon o ysbytai eraill yn cynnal clinigau ynddynt.
Mae canteen ar gael i ymwelwyr yn ogystal chleifion ac ar hyn o bryd edrychir
ar y dulliau gwahanol o gyrraedd yr ysbyty gyda bysiau ac ati.
Bydd Gweinidog Iechyd o'r Cynulliad yn agor Ysbyty Alltwen yn swyddogol.
Meddai'r Cynghorydd Selwyn Griffith sy'n Gadeirydd Cyngor Cymuned Iechyd
Gogledd Cymru: 'Rwy'n edrych ymlaen at yr agoriad. Ar ôl dros ugain mlynedd o ymgyrchu rydym erbyn hyn wedi cyrraedd y cam olaf.'