Trafodwyd y posibilrwydd o gael grant at y gwaith gan CADW, sef y corff sy'n gyfrifol am gofrestru a chynnal adeiladau 0 ddiddordeb pensaernïol a hanesyddol yng Nghymru.
Oherwydd bod Y Tollborth tua 150 oed ac yn enwog trwy Gymru cafodd Ymddiriedolaeth Rebecca yr argraff y caem gyfraniad at y gwaith.
Ar ôl misoedd o aros cawsom air yn dweud na allai CADW gofrestru'r adeilad na gwneud cyfraniad. Yn eu barn hwy yr oedd 'o ddiddordeb hanesyddol, ond nid o ddiddordeb hanesyddol arbennig'.
Ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau, a heb yn wybod i Rebecca, cofrestrodd CADW'r adeilad.
Y maent newydd gyhoeddi eu bod wedi cofrestru hen gwt sinc cyffredin, sef hen ystafell ocsiynau'r diweddar Robert Jones ger y British Legion.
Go brin y gellir ei ddisgrifio fel un o 'ddiddordeb hanesyddol unigryw nac arbennig.'
Rwy'n siŵr y bydd llawer o ddarllenwyr Y Wylan yn teimlo bod hwn yn benderfyniad chwerthinllyd.
Ym marn CADW y mae'r cwt yn hen 'Neuadd Eglwys' a bod gan 'adeiladau syml fel hyn le dilys fel rhan o'r treftadaeth adeiledig.'
Dadleuant fod adeiladau o'r math hwn yn gyffredin iawn yng Nghymru ac wedi eu hadeiladu fel arfer 'er lles pobl nad oeddynt yn gallu fforddio adeiladau mwy sylweddol'.
Yr oedd, wrth gwrs, rhyw dri o rai tebyg yn y Port ers talwm yn ardaloedd difreintiedig y dref a chynhelid ynddynt wasanaethau ac ysgolion Sul.
Roedd un ohonynt ble mae'r Clwb Hwylio ym Mhen Cei dan nawdd Capel y Garth a'r llall yn gwt sinc ble mae'r maes parcio gyferbyn a thai Heol y Parc.
Cangen o Eglwys y Tabernacl oedd yr adeilad hwn yn Heol yr Wyddfa. Y mae'r Cyng. Ieuan Roberts. yn cofio ei dad yn cynnal oedfaon yno yn achlysurol a'i chwaer yn helpu gyda'r ysgol Sul.
Hyd y gwelwn y mae gan CADW hawl i ymweld ag unrhyw adeilad heb ymgynghori a'r perchennog a'i restru, ac nid oes gennych chwi a minnau fawr ddim gobaith o'u perswadio i ail-ystyried.
Deallwn yn awr i'r Awdurdod wneud 116 o adeiladau ym Mhorthmadog yn rhestredig ar 26 Medi, 2005.
Yn fy mam i y mae gweithredu fel hyn yn unbenaethol ac afresymol. Onid ydyw yn hen bryd i newid y ddeddf a gorfodi CADW i ymgynghori a rhoi hawl i'r cyhoedd apelio cyn iddynt gofrestru adeilad?