Ers tua naw mlynedd bellach mae Pwyllgor Rheoli Canolfan Prenteg wedi gweithio'n ddiwyd a diflino tuag at sefydlu canolfan newydd i'r pentref.
A bellach wele'r ganolfan newydd sbon danlli yng nghanol y pentref.
Gyda chau capel Bethlehem yn 1999, dyna gau'r adeilad cyhoeddus olaf yn y pentref.
Ers chwedegau'r ganrif ddiwethaf roedd y pentref wedi colli'r ysgol, eglwys, siop, swyddfa bost, neuadd, tafarn a'r capel gan amddifadu'r pentrefwyr o unrhyw fan cyfarfod cyhoeddus.
Yng nghanol yr wythdegau sefydlwyd pwyllgor yn y pentref a fu'n gyfrifol am ddenu arian i sefydlu'r maes chwarae ar lain o dir diffaith yng ngwaelod y pentref, a
glustnodwyd i'r perwyl hwnnw gall yr hen Gyngor Sir Gaernarfon flynyddoedd ynghynt!
Bryd hynny codwyd bron i ugain mil o bunnoedd i wireddu'r prosiect.
Tipyn o gamp i bentref mor fach, a braf iawn heddiw yw gweld y defnydd cyson a wneir ohono gan y pentrefwyr ac eraill fel ei gilydd.
Cyfarfod cyhoeddus
Wedi cau'r capel felly dyma alw cyfarfod cyhoeddus i weld beth oedd gofynion ac anghenion y pentrefwyr a hynny o dan arweinyddiaeth Val Roberts a oedd ar y pryd yn Swyddog Adfywio i Gyngor Gwynedd yn yr ardal.
Sefydlwyd pwyllgor i edrych i mewn i'r posibilrwydd o gael canolfan - a dyma'r canlyniad.
Dros y blynyddoedd diwethaf trefnwyd nifer fawr o weithgareddau amrywiol i godi arian tuag at y prosiect a chafwyd cefnogaeth dda iawn gan y pentrefwyr a'r ardalwyr cyfagos.
Mae'r pwyllgor hefyd wedi cydweithio gydag asiantaethau a chyrff cyhoeddus i ddenu grantiau o wahanol ffynonellau ac amcangyfrifir y bydd y prosiect erbyn ei gwblhau yn werth dros £250,000.
Daeth yr arian yma o Gronfa'r Loteri Genedlaethol, Cronfa CFAP y Cynulliad, Cronfa CAE Parc Cenedlaethol Eryri a Chronfa'r Agregau, a gwerth¬fawrogwyd cymorth Pryderi ap Rhisiart, y Swyddog Adfywio presennol wrth ymgeisio am y nawdd yma.
Yr adeilad
Cynllun syml sydd i'r adeilad ac mae'n cynnwys neuadd, swyddfa, storfa, cegin, toiledau a chyntedd ac fe'i hadeiladwyd gan 'Y Brodyr Jones' sydd a'u gwreiddiau ym Mhrenteg.
Cynigir adnoddau amrywiol iawn gan gynnwys llwyfan a phiano ar gyfer cyngherddau ayyb, offer chwaraeon megis bwrdd pŵl a thenis bwrdd, teledu sgrin fawr ar gyfer dangos dvd neu gysylltiad PowerPoint, offer sain yn cynnwys lŵp ar gyfer y byddar a theganau fydd yn addas ar gyfer partïon plant.
Yn ogystal gosodwyd y
cerrig coffa a arferai fod ar gofgolofn y tu allan i'r capel ar wal y ganolfan.
Bu i'r cerrig hyn achosi cryn ofid i nifer o'r trigolion gan nad oedd unrhyw un yn barod i gymeryd cyfrifoldeb amdanynt ar ôl cau'r capel, ond bellach fe'u glanhawyd ac fe roddwyd iddynt y parch a'r urddas haeddiannol ar wal y Canolfan.
Ar hyn y bryd hefyd mae rhai o r pwyllgor wrthi'n brysur yn cael trefn ar y tir o amgylch y ganolfan gan greu awyrgylch fydd yn ddeniadol i'r llygad a hefyd ardal lle bydd yn bosib eistedd i hamddena.
Yn ystod y gwaith o baratoi'r tir bu'n bosib adfer ychydig ar weddillion y tÅ· cyntaf ym Mhrenteg, sef y 'Pren Teg' gwreiddiol, sydd wrth dalcen y ganolfan. Cofiwch chwilio amdano pan alwch heibio.
Agoriad swyddogol
Agorir y Ganolfan yn swyddogol dydd Sadwm, y 5fed o Orffennaf, gan y mynyddwr a'r anturiaethwr Eric Jones, Bwlch y Moch, a bydd croeso i chwi alw heibio rhwng 4 a 5.30 y pnawn i weld yr adeilad.
Yna am 7.30 yr hwyr cynhelir cyngerdd agoriadol yng nghwmni Côr Meibion Dwyfor a Bethan Nantcyll.
Bydd mynediad yn £3 drwy docyn yn unig.
Erbyn hyn mae'r ganolfan ar gael i'w llogi gan unigolion neu fudiadau a chymdeithasau, a bydd yr offer a'r adnoddau ar gael i'w llogi hefyd.
Am fwy o fanylion ynglyn a hyn cysylltwch a Magwen ar 01766 513660 a chofiwch fod telerau arbennig i fudiadau ardal Yr Wylan!
Bydd cyfle hefyd i unrhyw un sy'n dymuno cefnogi'r ganolfan wneud hyn drwy ymuno ag un o'n Cynlluniau Cefnogi.
Am £52 y
flwyddyn neu £1 yr wythnos cewch ymuno a'r Cynllun Cefnogi Pe!
Bonws lle cewch gyfle i ennill £25 yn wythnosol yn ogystal a chael manteision o fynychu rhai
gweithgareddau penodol yn rhad ac am ddim a chael gostyngiad yn y pris llogi.
Neu os hoffech ymuno a'n Cynllun Cefnogi Cyffredinol am £10 i oedolion neu £5 i blant, cewch eto fynychu rhai gweithgareddau penodol am ddim.
Cysylltwch a Gwyneth ar 01766513007 neu Phyllis ar 01766 512632 am fwy o fanylion.
Cymunedau bychain
Tybed a oes gwers yn y stori hon? Efallai fod dyfodol i gymunedau bychain wedi'r cwbl a bod angen i'r rhai sydd yn gwrthwynebu newid gymeryd dalen o lyfr
Prenteg.
Gydag ychydig o ddychymyg, penderfyniad a llawer iawn o waith caled y mae modd llwyddo a chreu adfywiad mewn cymuned fach.
Efallai fod angen edrych ar y sefyllfa yn gadarnhaol weithiau gan ystyried y posibiliadau gwahanol all ddeillio o newidiadau.
Felly dewch draw i Brenteg i weld y ganolfan newydd drosoch eich hunain - bydd croeso i chi.