91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Wylan
Yr hogia'n gosod y trac newydd i Ryd-ddu Trên o Gaernarfon i Borthmadog yn 2009
Medi 2004
Cyhoeddodd Rheilffordd Ffestiniog iddynt sicrhau cyfalaf i ail-adeiladu'r trac o Ryd-ddu i Borthmadog ar gost o £10.75 miliwn.
Derbynasant addewid o grant o £3.5 miliwn o Gronfa Amcan 1 Ewrop, £1.3 miliwn oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'r gweddill yn rhoddion o'r sector breifat. Dechreuir ar y gwaith yn ddiymdroi gyda'r gobaith i weld trenau yn cyrraedd y Port yn 2009.

Daeth disgyblion o Ddosbarth 8 Ysgol Eifionydd draw i Ryd-ddu i fod yn llygad dystion i drên arbennig a gyrhaeddodd i ddathlu'r achlysur. Bu cydweithrediad agos rhwng yr ysgol a Rheilffordd Ffestiniog ers dwy flynedd a nifer o'r plant yn cael profiad gwaith gyda'r cwmni. Bu'r cynllun ynllwyddiant ysgubol.

A welir eto drên yn croesi'r ffordd ar Bont Britannia? Yn sicr y mae gan y cwmni hawl i wneud hynny gan iddynt trwy brynu gwely trên yr hen gwmni etifeddu eu hawliau hefyd. Bu achlust am adeiladu gorsaf ger Leos ond nid yw'r Ffestiniog wedi cydnabod hynny erioed. Pe gwireddid hyn hwyrach na fuasai raid i'r trên groesi'r ffordd ond i deithio i Boston Lodge er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw. Ond hwyrach mai stori wneud yw hon. A yw'r Brodyr Bach o gwmpas o hyd i dynnu ein coes yn chwareus?

Bwriada'r Cynulliad ddechrau ar ffordd osgoi Porthmadog yn 2008 a bydd pwysau arnynt hwythau mae'n debyg i geisio ei chwblhau erbyn 2009. Heb os ac oni bai bydd cryn drafod cyn hynny.

Beth bynnag yw eich barn am ailagor y lein ni ellir gwadu y bydd y siwrnai o Gaernarfon i Borthmadog ac yna ymlaen i'r Blaenau yn un o deithiau godidocaf a chyffrous Ewrop. Dylai hefyd fod o fudd economaidd sylweddol i fro'r Wylan.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý