Doedd dim ond ychydig ers pan ymadawsai'r hyglod Fictoria a'r fuchedd hon ond yr oedd ei henw annwyl yn dal i berarogli o hyd er bad ei mab diffaith, Edward Vll, un a oedd ymhlith llawer o bethau eraill yn ferchetwr o gryn fri a gallu, wedi ei holynu.
Roedd Arthur Balfour yn brifweinidog a'r Ymerodraeth Brydeinig nad oedd fachlud fyth i fod arni yn ei hanterth. Byddai'n agos i ddwy flynedd arall cyn i ddiwygiad Evan Roberts dorri allan.
Y flwyddyn honno hefyd fe ymddangosodd cigydd o Borthmadog, cyfaill agos i Eifion Wyn, gyda llaw, o flaen ei well ym Mryste i ateb cyhuddiad o ddrwgweithrediad honedig ysgeler a ddygwyd yn ei erbyn.
Cadwaladr Griffith wrth ei enw, un o golofnau'r gymdeithas yn y dre ac un oedd yn cynnal ei fusnes bwtsiar mewn siop yn 28 Heol yr Wyddfa lle mae safle'r Optegydd Rook & Thomas erbyn heddiw.
Pa bechod anfad y cyhuddwyd ef o'i gyflawni tybed? Wel, yn ôl pob tebyg yr oedd ffyrm o Fryste yn ei erlyn yn y gobaith o sicrhau iawndal i'w digolledu am nifer o focsys sosej yr honnwyd eu bod wedi eu hanfon iddo.
Dadl y diffynnydd ar y llaw arall oedd bod cynrychiolydd y cwmni o Fryste wedi cytuno yn y lle cyntaf i anfon i Borthmadog ddim ond un bocs yn unig o sosej - fel math o sampl fel petai - ond fod y brawd hwnnw wedi cyfeiliorni a chamddeall yn enbyd ac wedi anfon yn hytrach nifer helaeth o focsys i'r cwsmer. Ac yr oedd yntau, Cadwaladr Griffith, wedi gwrthod yn bendant eu derbyn gan adael y cyfan mae'n debyg i bersawru'n dra anhyfryd am rai misoedd yng ngorsaf Rheilffordd Ffestiniog yn y Port.
I goroni'r cyfan yr oedd awdurdod y rêl-wê wedi codi chwe swllt ar hugain am eu storio!
Wel nawr, ar gyfrif y ffaith nad oedd yn rhy huawdl yn yr iaith fain doedd gan y diffynnydd fawr o awydd ymddangos o flaen y llys ym Mryste. Eithr ymddangos fu raid.
Ei unig obaith oedd y doi o hyd i dwrnai rywle yn y Fabilon fawr honno oedd yn hyddysg yn iaith y nefoedd. Cawsai gan gyfaill gyfeiriad rhyw ŵr y gyfraith a allai fod o ryw gymorth iddo. Ond pan gyrhaeddodd Cadwaladr druan yno canfu nad oedd hwnnw chwaith yn deall y Gymraeg. 'Dim problem o fath yn y byd gyda'r Ffrangeg neu'r Almaeneg' dywedwyd wrtho - 'as for Welsh, we know nothing of it here.'
Er hynny fe dosturiodd y cyfreithiwr wrtho pan gaed cri o'r galon gan yr hen batriarch: 'What is me in face of great place like this . . . ?' Eithr gan ychwanegu'n stoigaidd: 'but never mind, my matter is right.' Ac fe'i cymerodd o dan ei adain.
Daeth Cadwaladr i'r Llys wedi ei arfogi a geiriadur Saesneg/Cymraeg di-glawr a hynod racsiog a fenthyciasai gan ei daid yng Nghwmstradllyn. Doedd o'n nabod yr un enaid byw bedyddiol yno ac eithrio cynrychiolydd y Cwmni a oedd wedi dwyn yr achos yn ei erbyn. Eisteddai ei Anrhydedd Farnwr yn uchel i fyny yn Y Llys gyda golwg pur sarrug arno.
Rhoddwyd achos yr achwynydd gerbron i ddechrau a galwyd tystion. Yna safodd y cyhuddedig yn y bocs. Edrychai'n eitha' didaro wrth iddo edrych o'i gwmpas i gymryd stoc o bethau gan edmygu'r nenfwd addurniedig ac ati.
Gwthiwyd Beibl i'w law. Tyngodd yntau lw gan fynd ati orau gallai wedyn i roi ei dystioIaeth yn y Saesneg. Fe'i croesholwyd yn llym gan yr
erlyniad. Gwrthodai yntau ateb yr un cwestiwn heb iddo yn gyntaf agor ei eiriadur i chwilio am ystyr ambell air. Rhoddai hynny gyfle iddo yr un pryd i gasglu ei feddyliau at ei gilydd.
Yna, daeth yn dro'r amddiffyniad a chafodd ei holi gan ei dwrnai ei hun.
Y Twrnai: 'Did yw tell the traveller last October that you wanted the boxes before Christmas?'
Cadwaladr: 'We don't think of Christmas that early in Wales.'
Barnwr: 'When do they think of Christmas in Bristol then?'
Caed chwerthin uchel dros y Llys.
Yr oedd hi'n mynd yn fwy dyrys arno wrth i'r achos fynd rhagddo. Mynnodd droeon i dorri allan i ddweud ei ddweud ac i frebliach rhywbeth yn y Gymraeg, ond câi ei atal am nad oedd neb yn ei ddeall. Trodd y Barnwr ato drachefn:
Barnwr: 'Gan you write in English?'
Y Diffynnydd: 'No.'
Barnwr: 'Who writes letters for you?'
Y Diffynnydd: 'My children.'
Barnwr: 'Can you read English then?'
Y Diffynnydd: 'The little words yer Honour. . . but not the big uns... '
Chwerthin uchel unwaith yn rhagor.
Doedd pethau'n mynd i unlle ond pan ddaeth yn amser iddo grynhoi cyhoeddodd y Bamwr: 'Ger ein bron ni heddiw y mae achos ffôl ynghylch dim namyn bocs neu focsys o sosej! Mae Cynrychiolydd y Cwmni yn Sais ac y mae'r diffynnydd yn Gymro uniaith bron a dyna'n sicr y rheswm am y dryswch a'r camddealltwriaethau. . . rwy'n dyfarnu o blaid y diffynnydd ynghyd â'r cyfan o'r costau iddo'r un pryd.'
Roedd Cadwaladr ar ben ei ddigon ar ei ffordd yn ôl er ei fod yn ddig odiaeth ynghylch yr orfodaeth a fu arno i gyrchu'r holl ffordd i Fryste i ateb achos mor bitw a diwerth. Ac fe dyngodd lw yn y fan a'r lle na welid ef, tra byddai ynddo chwyth na chwimiad, byth wedyn yn archebu sosej o unrhyw faint neu unrhyw drwch, boed y rheiny o borc neu fîff, oni welai fwg simnai y gwerthwr hwnnw o ffenestr ei siop ei hun.
A phwy tybed oedd y Cadwaladr Griffith hwnnw y gwelir ei lun yma yn y llys ym Mryste yn bodio geiriadur hen fachgen ei daid o Gwmstradllyn?
Neb llai, yn ei dro, na thaid i un o golofnau ein cymdeithas ym Mhorthmadog heddiw, sef Mrs Ifanwy Willliams, Ond o feddwl ac o graffu ar y llun, oni weli fod tebygrwydd teuluol eithaf amlwg?
William Owen