91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Wylan
Gwalch y Pysgod - RSPB Croeso nôl
Ebrill 2005
Ar ôl misoedd hir o gnoi gwinedd a chroesi bysedd, gallwn lawenhau bellach ar ôl i'r pâr o Weilch y Pysgod a nythodd ger Llanfrothen y llynedd ddychwelyd yn ôl yn saff i'r ardal.
Gwelwyd y ceiliog ar 28 Mawrth ac roedd yr iâr wedi dychwelyd erbyn 4 Ebrill, wythnos union ar ôl y ceiliog. Roedd hi'n ga1onogol gweld bod y ceiliog wedi derbyn y nyth newydd yn ddigwestiwn, er ei fod yn edrych yn amheus arno ar y diwrnod cyntaf. Fel y gŵyr pawb bellach bu i nyth llynedd gwympo yn ystod tywydd garw ddiwedd mis Mehefin ac yn anffodus lladdwyd y ddau gyw ifanc.

Er mwyn sicrhau nad oedd yr un peth yn digwydd eleni, torrwyd copa'r goeden i 1awr gan ail-greu'r nyth yn y brigau saffach yn is i lawr. Bu plant Ysgol Llanfrothen yn cynorthwyo gyda'r gwaith pwysig o gasglu brigau i'r nyth newydd.

Mae'r ceiliog wedi bod yn brysur iawn yn cario brigau a mwsog a gwair i'r nyth newydd. Ef hefyd sydd yn gyfrifol am ddal pysgod iddo'i hun ac i'r iâr. Mae ganddo ddyletswyddau eraill i'w cyflawni wrth gwrs er mwyn gwneud yn siŵr y bydd cywion eto eleni. Bu'n brysur hefyd yn hel adar ysglyfaethus eraill a brain o safle'r nyth. Does dim syndod bod golwg flinedig arno! Digon diog yw'r iâr ar y funud yn eistedd am gyfnodau hir yn gwneud dim. Ond dyna ferchaid i chi!!

Mawr obeithiwn y bydd wyau yn y nyth yn ystod yr wythnosau nesaf. Bydd yr iâr yn gori am oddeutu 37 diwrnod cyn i'r wyau ddeor. Yna bydd y cywion yn y nyth am dros hanner cant arall i ddyddiau. Pob lwc iddynt.

Mi fydd cyfleusterau yr RSPB eto ger Pont Croesor eleni, o 29 Ebrill ymlaen. Yn wahanol i'r llynedd bydd cuddfan a chanolfan yno gyda theledu mawr yn darlledu lluniau byw o'r nyth. Bydd telesgobau yno hefyd ac arbenigwyr wrth law i ateb eich ymholiadau. Buaswn yn annog pobl unwaith eto i ddefnyddio'r safle yma i wylio'r adar. Peidiwch â mynd yn agosach i'r nyth os yn bosibl, gan y gall y pâr adael safle'r nyth os oes gormod o aflonyddu arnynt. Dyna'r peth ola' yr ydym ei angen.

Beth am alw draw i Bont Croesor yn ystod yr wythnosau nesaf i fwynhau'r olygfa arbennig yma sydd wedi dod â chymaint o enwogrwydd i dalgylch Yr Wylan. Gallwn sicrhau na fyddwch wedi eich siomi.

Elfyn Lewis


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý