91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Wylan
Holi ac Ateb
Mai 2005
Deintydd newydd Penrhyndeudraeth
Gyda deintyddion mor brin y dyddiau yma mae'r Wylan wedi bachu gair efo deintydd newydd yr ardal.
1. Beth ydi dy enw ac o ble rwyt ti'n dod yn wreiddiol?
Fy enw i ydi Dr Mike Lloyd Hughes, a dwi'n wreiddiol o Benygroes, ac wedi byw yno am y rhan fwyaf o fy oes.

2. I ble es di i'r Coleg?
Mi es i Goleg Caerdydd, a bu i mi raddio yng Ngholeg Deintyddol Caerdydd, Ysbyty y Waun, gyda B.D.S. a theilyngdod, sef Bachelor of Dental Surgery. Roedd y cwrs yn 5 mlynedd o hyd, a'r fantais o raddio fel deintydd yw eich bod yn arbenigwr yn llawer iawn cynt na phetaech yn mynd yn feddyg.

3. Pa brofiadau cofiadwy a gefaist tra yn y Coleg?
Mi wnes i fwynhau fy amser yn y Coleg. Roeddwn yn byw yn Neuadd Breswyl Senghennydd yng nghanol dinas Caerdydd yn fy mlwyddyn gyntaf, ac yn mynychu Prifysgol Caerdydd am flwyddyn i ddysgu anatomeg, ffisioleg a biocemeg. Yn ystod y cyfnod yma bu i mi gwrdd a llawer o Gymry Cymraeg, a deuais yn ffrindiau da efo Ioan Owen o Ros-y-bol, Ynys Môn, ac y mae ef, bellach, yn ddeintydd yn Aberystwyth, ac yn un o fy ffrindiau gorau.

Yn y bedwaredd flwyddyn aethom ein dau i wneud gwaith ymchwil yn Porto Alegre, ym Mrasil, fel rhan o'r cwrs. Treuliasom wyth wythnos a hanner yn teithio drwy Brasil, Iwrwgwei a'r Ariannin. Mi fuom ym Mhatagonia am dros wythnos, a chwrdd â llawer o Gymry Cymareg yno hefyd - mi roedd yn brofiad a hanner!

O'r ail flwyddyn ymlaen bu'n rhaid inni symud yn agosach at yr Ysgol Ddeintyddol ar gyrion y ddinas, a chefais 4 blynedd wych yn dysgu am ddeintyddiaeth yno. Bu'n rhaid ymarfer drilio ar ddannadd mewn phantom head, sef pen rwber efo dannedd go iawn wedi'u rhoi mewn cŵyr ynddo. Wedi llwyddo'n yr arholiadau ymarferol ar y pen, rhaid oedd symud ymlaen at bobl go iawn! Ar y dechrau cymerai bron i awr i mi wneud un filling, ond bellach gallaf wneud un mewn 5-15 munud!

4. Oedd yna amser i fwynhau tra yn y Coleg?
Oedd yn amlwg, ond wedi dweud hynny am flwyddyn a hanner bum yn gweithio'n rhan amser fel DJ yng Nghlwb Ifor Bach er mwyn ceisio cael. rhywfaint o arian poced. Hoffais hyn yn fawr iawn, gan fy mod wedi bod awydd y swydd ers y flwyddyn gyntaf.

5. Gyda phrinder deintyddion amlwg yng Nghymru pam dewis practis ym Mhenrhyndeudraeth?
Mae pob deintydd sydd yn graddio tyn y Deyrnas Unedig i fod i wneud Vocational Training os ydynt am weithio yn y GIG/NHS ar ôl 5 mlynedd mewn coleg. Pwrpas y VT ydy rhoi'r rhyddid i ddeintyddion newydd ddysgu deintyddiaeth yn well, heb orfod meddwl am geisio gwneud arian i fyw. Ym Mhenrhyndeudraeth, mae'r deintydd Justin Jones yn cael ei dalu i ofalu amdanaf am flwyddyn, gan roi cyngor a chymorth i mi os bydd angen. Y practis deintyddol ym Mhenrhyndeudraeth yw'r unig un yng Ngqwynedd sy'n gwneud VT.

6. Wyt ti'n mwynhau gweithio ym Mhenrhyndeudraeth?
Mae Penrhyn yn lle neis iawn i weithio, gan fod pawb mor garedig, a'r bwyd o'r Deli yn wych! Dwi'n ddigon ffodus hefyd i gael pryd o fwyd blasus gyda Justin Jones a'i wraig ym Minffordd bob nos Fawrth. Yr hyn sy'n wych am weithio fel deintydd yw nad oes yr un diwrnod yr un fath; ac mae digonedd o waith ar gael.

7. Wyt ti'n mwynhau gweithio mewn cymdeithas Gymraeg?
Dwi'n hoffi trin y werin Gymraeg, yn enwedig ar ôl trin pobl ddi-Gymraeg am 5 mlynedd. Ond rhaid cyfaddef, gan fy mod wedi cael fy magu yn ail ward fwyaf Cymreig Cymru, fy mod wedi cael cryn sioc gan gymaint y mewnlifiad sydd wedi bod i'r ardal, yn enwedig ar hyd arfordir Meirionnydd.

8. Oes yna rywbeth anghyffredin wedi digwydd i ti ers iti ddechrau gweithio ym Mhenrhyndeudraeth?
Mae un o fy nghleifion wedi llewygu yn ystod triniaeth, ac rwyf wedi tynnu un dant wisdom oedd efo 5 gwreiddyn iddo, sydd yn ofnadwy o anghyffredin.

9. Yn amlwg, rydym yn ffodus iawn ein bod wedi cael deintydd newydd i'r ardal, yn enwedig o ystyried bod deintyddion mor brin, ond beth yw dy obeithion di ar gyfer y dyfodol?
Mae gen i ddiddordeb mewn gwneud Maxillo Facial Surgery, sef adran o ddeintyddiaeth sydd yn delio yn arbennig gyda'r pen, y wyneb a'r geg. Mae'r gwaith yn amrywio o dynnu dannedd, i drin cancr y geg a'r croen. Rwyf eisoes wedi gwneud 5 mlynedd o goleg, ond os am gyrraedd fy uchelgais, bydd yn rhaid i mi wneud 2 flynedd fel Senior House Officer mewn ysbyty, yna 4 blynedd o feddygaeth. Y cam nesaf wedyn fyddai cael swydd fel meddyg mewn ysbyty, ac yna hyfforddiant i fod yn Specialist Registrar am 5 mlynedd cyn i mi allu cyrraedd fy uchelgais. Golyga hynny oddeutu 18 mlynedd o hyfforddi, gan raddio fel Consultant yn 40 oed!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý