Mae darllen y geiriau sydd amyn nhw am y marw yn dweud llawer am fywyd fel yr oedd o yn y Port ganrif a hanner yn ôl.Fe godwyd Hen Gapel y Garth (neu Moreia fel y gelwid ef) yn 1845, bron i chwarter canrif ar ôl cofrestru Porthmadog fel porthladd. Y cofnod cyntaf o gladdu yma yw 1847 er fod carreg yma i goffáu tri o blant Robert Evans (dilledydd). Bu farw'r cyntaf yn 1801 yn 7 wythnos oed, yr ail a'r trydydd yn 1806, un yn 5 wythnos a'r llall yn 2 flwydd. Y gladdedigaeth olaf yn y fynwent oedd yn 1914.
Mae yno 77 o feddfeini a chladdwyd yma oddeutu 100 o oedolion. Yr hyn sydd ddychryn yw cyfrif nifer y plant a fu farw. Claddwyd 47 o fabanod o dan un oed, a 31 plentyn o un oed i bymtheng mlwydd. Ar ben hynny mae 30 o'r oedolion wedi marw o dan 40 oed a nifer o'r rhain yn rieni.
Torcalonnus yw darllen yr arysgrifau. Dyna deulu Griffith a Catherine Griffith.Yn 1851, colli eu plant Gwen ac Elizabeth, un yn 3 a'r llall yn 4 mlwydd oed. Yn 1859, boddwyd dau o'u hogiau gyda'r 'Beatrice Catherine', ym Mae Porthoer - William yn 20 a Griffith yn 16. Yn 1875 bu farw David eu mab hynaf yn 29 mlwydd oed. Mae'n syn, wedi'r holl ofid fod y rhieni wedi byw hyd eu 70au.
Nid pobl dlawd oedd llawer o'r rhai a gladdwyd yma. Mae'n amlwg fod gan eu teuluoedd fodd i wneud beddau cist a gosod rheiliau haeam o'u hamgylch. Dyna fedd cist a'r rheiliau o'i chwmpas i J H Williams, Brittania Foundry. Roedd o yn un o wÅ·r amlycaf y dref yn cyflogi nifer fawr o weithwyr. Agorodd felin goed a phrynodd long yr 'Ocean Child' er mwyn mewnforio coed o'r America ar ei gyfer ef ei hun yn unig. Pan aeth y llong haearn y 'Turkenstein' ar y traeth yn Harlech fe'i prynodd gan feddwl ei arnofio, ond methiant fu'r ymdrech. Roedd o'n flaenor yng nghapel y Tabernacl, yn wir, dywedid ei fod fel tad y lle. Ond waeth befo. Collodd John ei ail fab yn 11 mlwydd oed a Laura Mary yn 21ain. Bu J H Williams ei hun farw yn 1876 yn 62 ond bu ei wraig Margery fyw i fod yn 90, ond erbyn hynny gwelodd golli ei mab William yn 35 mlwydd oed.
Yn Gymraeg mae'r mwyafrif helaeth o'r arysgrifau, hanner dwsin efallai yn Saesneg. Ond waeth beth fo'r iaith yr un yw'r gofid. In memory of four sons and one daughter: Children of John Thomas by Mary his wife. D. 1844. One of the above is buried at Llanfrothen the other four at Penmorfa. Also another son buried here 1849. Their united ages 12 years.
Yma doedd y plant heb eu henwi hyd oed, does yma ond y ffeithiau noeth, a gresynu di-ddiwedd. Beth oedd achos y marwolaethau ifanc yma tybed? Afiechydon heintus mae'n debyg. Rhaid cofio nad oedd Bwrdd lechyd wedi'i sefydlu hyd 1857 ac nad oedd dŵr glân yn Port hyd 1864. Teflid y carthion i'r stryd. Doedd ryfedd fod afiechydon yn lledaenu.
Boddi ar y môr oedd yr achos weithiau: Coffadwriaeth am Thomas Davies, Meistr y Schooner 'Gazelle', Portmadoc, yr hwn a gollwyd tros ei bwrdd mewn tymestl y tu allan i Buchaness, Awst 22ain, 1847 yn 34 mlwydd oed. Hefyd merch y dywededig T Davies ac Anne ei briod a fu farw Medi 22 1855 yn 8 mlwydd oed ac a gladdwyd isod. Hefyd am Anne Davies, gweddw y dywededig Thomas Davies yr hon a fu 18 Ebrill1867 yn 55 mlwydd oed.
Tybed a oes disgynyddion yn y Port i'r rhai sydd â'u henwau ar y garreg hon: Er cof am Evan bachgen John a Margaret Paul, Portmadoc. Bu farw Ionawr I, 1856 yn 11 mlwydd oed. Hefyd am Margaret, priod y dywededig John Paul yr hon a fu farw Ebrill 12, 1874 yn 61 mlwydd oed. 'Hyn a allodd hon, hi a'i gwnaeth'.
Hefyd Jane eu merch, yr hon a fu farw, yn 23 mlwydd oed. Hefyd am y dywededig John Paul, yr hwn a fu farw, Mai 20fed 1880 yn 68 mlwydd oed.
Mae yna amryw o englynion a phenillion ar y cerrig, rhai yn well na'i gilydd. Dyma'r un mwyaf gwladaidd efallai, ar ôl Robert Jones a foddodd yn Helsinburg, Tachwedd 6, 1862 yn 44 mlwydd oed ac a gladdwyd yno.
Oh! Gresyn na chawswn groeso - yn fy ôl
Yn fyw cyn angori;
Ond mewn glan bell fan wyt fi
Yn y bedd ar ôl boddi.
J.R.J