Y mae yn werth ei phrynu pe bai ond am y lluniau clir iawn o blant ac athrawon yr ysgol o 1898 ymlaen i eleni sydd ynddi.
Gwahoddwyd y pentrefwyr yn 1871 i benderfynu a oeddent eisiau ysgol a'i peidio. Pleidleisiodd yr Anglicaniaid yn erbyn oherwydd y buasai'r ysgol yn anenwadol a hwyrach yn bygwth eu hysgolion hwy. Gwrthwynebodd y ffermwyr oherwydd y buasai'r dreth yn codi. Ym Morth-y-gest felly pleidleisiodd 34 dros gael ysgol a 72 yn erbyn.
Yn 1841 dim ond 20 o bobl oedd yn byw yma mewn tua 6 o dai. Erbyn 1871 roedd 371 o bobl a 96 o dai yn y pentref. Y prif reswm am hynny wrth gwrs oedd bod pedair iard i adeiladu llongau yma.
Pan godwyd yr ysgol yn 1879 disgrifiwyd yr adeilad fel 'yr harddaf yn y plwy', ac agorodd yn 1880 gyda 1670 blant. Yr hyn sydd yn ddiddorol am y cyfnod cynnar hwn yw mai cyfartaledd y presenoldeb oedd 26.
Roedd y prifathrawon yn y blynyddoedd hynny yn cwyno yn barhaus am absenoldeb y plant. Yr esgusion oedd fod rhaid mynd ar fordaith o rai misoedd gyda'u tadau, mynd i gasglu cocos, gwerthu mecryll, tymor penwaig yn ei anterth, diwrnod dyrnu yn y Borth, cynhaeaf gwair, ffair Cricieth, plannu tatws, sglefrio ar rew neu hel clennig.
Fel coron ar y flwyddyn hanesyddol hon llwyddodd y plant i ennill y wobr gyntaf a thlws hardd am y gân actol i ysgolion dan 100 o blant yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Y mae eu llun ar glawr y gyfrol.
Rai dyddiau'n ôl galwodd gŵr a gwraig o Gymdeithas Cymraeg Croydon i weld yr ysgol a'r plant gyda'r newydd mai gŵr o Borth-y-gest oedd John H Morris a roddodd y tlws i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Roedd ef yn fab i Capten Robert Morris, Trigfan, Ralph St., ac yn ewythr i Capten Edward Morris, Meirionfa, Borth-y-gest.
Derbyniodd yr ysgol grant o £2000 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri tuag at gost argraffu'r llyfr. Fel canlyniad cafodd pob plentyn gopi o'r gyfrol am ddim.
Gallwch gael copi o'r llyfr deniadol hwn am £5 yn yr ysgol neu yn Siop Eifionydd.
Maldwyn Lewis
|