Cyfarfydda'r tîm bob nos Lun am ryw ddwy neu dair awr i ymarfer gyda'u hoffer ac ati ac mae eu gwaith sylwer yn gwbl wirfoddol.
Mae'r Tîm Achub yn ymateb i alwadau o Borthmadog, tros Y Moelwyn at Nantgwynant, trosodd i Ryd-ddu ac i Benygroes a Phen Llŷn i gyd.
Maent yn cydweithio yn ogystal â'r timau achub lleol iddynt, sef Tîm Achub Uanberis a Thîm Achub De Eryri ac mae'r berthynas rhyngddynt yn gyfeillgar yn ogystal wrth gwrs a phroffesiynol.
Yn ddiweddar mae tîm Achub Mynydd Aberglaslyn wedi cynorthwyo'r Heddlu i chwilio am rai sydd wedi mynd ar goll.
Yn ystod 2006 ymatebodd y tîm i ddeg ar hugain o alwadau ac roedd yn un o'r blynyddoedd prysuraf erioed iddynt, ac yn wir i'r Timau Achub eraill yng Ngogledd Cymru.
Y galwadau mwyaf cyffredin ydyw achub y rhai sydd heb frifo ond sydd ar goll neu achub y rhai sydd wedi anafu ffer, troed neu goes a hynny wedi digwydd wrth iddynt ddod i lawr y mynyddoedd.
Yn ddiweddar bu raid i'r tîm gario claf ar stretcher oddi ar Garnedd Goch i lawr i faes parcio Cwm Sulyn.
Gall y tîm fod oddi cartref ar alwad am oriau maith a hynny ymhob tywydd ac felly gofynnais i Dion pam ei fod yn gwneud y gwaith gwirfoddol hwn.
Eglurodd ei fod yn teimlo ei fod yn rhoi gwasanaeth personol yn ôl i'w gymuned a phe byddai yntau oddi cartref ac mewn trafferthion ar ben rhyw fynydd diarth buasai yn falch o weld Tîm Achub yn dod i'w achub.
Mae angen adnewyddu offer yn gyson, er enghraifft, cerbydau, rhaffau ac ati a gall stretcher newydd gostio cymaint a £1000-£1500.
Rhaid i'r Timau Achub sicrhau cefnogaeth ariannol er mwyn cynnal y gwasanaeth ond dim ond un gacen sydd a thamaid bychan i bawb.
Yn y llun gwelir aelodau o'r tî, gyda hofrennydd y Llu Awyr ar ochrau'r Cnicht yn achub rhywun a oedd wedi torri ei goes.
Diolch i chwi hogia' am eich gwasanaeth amhrisiadwy. Daliwch ati.
|