Yn anffodus nid yw'n brofiad dieithr i nifer ym mro Yr Wylan. Yn naturiol yr ymateb cyntaf yn ddi-feth yw un o sioc a dychryn a rheini'n eu tro'n arwain at gybolfa o emosiynau sy'n cynnwys gweld bai, gwylltineb a digalondid.
Ond yn ffodus nid yw'r tywyllwch yn para'n hir.
Cyn pen dim daw llygedyn o oleuni ym mhen draw'r twnnel i gynnig gobaith a buan iawn y try'r llygedyn hwnnw'n llafn disglair sy'n codi'r galon a chwalu'r gofidiau.
Oherwydd nid gormodedd yw dweud fod datblygiadau gwyrthiol y blynyddoedd diwethaf yma ym maes trin cancr wedi golygu fod mwy a mwy o ddioddefwyr yn derbyn triniaeth lwyddiannus ac yn gwella o'r aflwydd.
Un o'r rheini yw Phyllis Evans o Brenteg.
Yn 1997 y trodd bywyd Phyllis Evans a'i theulu ben i waered gyda'r cadarnhad ei bod yn dioddef o gancr.
Canlyniad hynny
oedd treulio cyfnodau meithion yn teithio'n ôl ac ymlaen o'i chartref i'r ysbyty naill ai ym Mangor neu ym Modelwyddan.
Bu'n
brofiad hir a blinderus ond fe'i gwobrwywyd am ei dyfalbarhad.
Ciliodd y drwg gan adael Phyllis yn rhydd i fwrw ymlaen gyda'i bywyd llawn a phrysur ym Mhrenteg a thu hwnt. Dychwelodd normalrwydd.
Ond nid dyna ei diwedd hi. Cymaint oedd dyled Phyllis i'r meddygon a'r arbenigwyr fu'n gofalu amdani yn ei gwaeledd roedd am ddangos ei gwerthfawrogiad diamwys i'r rhai a adferodd ei hiechyd.
Ar ben hynny, bu misoedd Medi a Hydref eleni yn dipyn o garreg
filltir iddynt fel teulu gan fod Phyllis yn dathlu ei phen-blwydd yn 50 mlwydd oed, Ioan y mab yn 21 mlwydd oed, a Gwilym a Phyllis yn dathlu eu priodas arian - y cwbl o fewn pum wythnos i'w gilydd.
Doedd dim amdani felly ond cyfuno'r dathliadau i gyd drwy drefnu noson arben¬nig, gyda chymorth Elain y ferch, yng Nghlwb Golff Porthmadog, er mwyn codi arian tuag at brynu offer i
Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd ac Uned Eira, Ysbyty Glan Clwyd.
Gwerthwyd y 160 o docynnau mewn dim o dro.
'Bu'r ymateb yn eithriadol a'r gefnogaeth tu hwnt i unrhyw ddisgwyliad,' meddai Phyllis wedi gwirioni'n llwyr gyda llwyddiant ei menter.
"Codwyd £2,000 cyn y noson ei hun hyd yn oed wrth i'r archebion am docynnau
ynghyd a rhoddion hael lifo i'r coffrau."
Yn ogystal a noson o adloniant amrywiol yng
talentau lleol Bethan Nancyll, Jeremy Davies, Melissa Minnice a'r anfarwol Gwibdaith Hen Fran, cafwyd ocsiwn hynod lwyddiannus hefyd.
"Unwaith eto bu'r ymateb yn anhygoel gyda phopeth o wyliau yn Sben i ddarn o wal hanesyddol Berlin yn mynd â bryd y bidwyr," ychwanegodd Phyllis.
'Roedd hyn yn gyfle i mi ddiolch i staff Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Bodelwyddan
am eu gofal arbennig ohonof i a ddioddefwyr eraill, ac rwy'n hynod falch i'r noson fod
mor llwyddiannus.
Mi roedd o'n gyfle hefyd i gael yr holl bobl fu'n gefn i ni drwy gyfnodau anodd at ei gilydd er mwyn dangos ein gwerthfawrogiad iddynt."
Fel mae Yr Wylan yn mynd i'w wely mae'r arian a godwyd ar y noson yn dal i gael ei gyfrif.