Dros y pum mis y buon nhw yma roedd y ceiliog a'r iar wedi magu dau gyw. Ar eu pen eu hunain y maen nhw'n ymfudo, ac nid efo'i gilydd yn un teulu.
Yr iar â ymadawodd gyntaf a hynny ddechrau Awst, bum wythnos o flaen y cywion. Gobeithio iddyn nhw gael siwmai saff i ben eu taith ac y dont yn eu hôl y flwyddyn nesaf.
Yn ystod y tymor ymwelodd 47,000 o bobl â'r Ganolfan Wylio. Mae hyn yn dangos y diddordeb sydd gan bobl, yn ddieithriaid a phobl leol, yn yr aderyn yma â oedd mor ddieithr i ni yn y rhan yma o'r byd.
Cafwyd cyfle i ddysgu am arferion yr adar yma sydd wedi eu haddasu mor gywrain i'w dull o fyw - yr adenydd llydain i hofran, y crafangau miniog i ddal y pysgod, a'r llygaid mawr i'w gweld, ac yna'r nerth i godi i'r entrychion a'u cario'n ôl i'r nyth.
Hyn heb son am eu greddf i ffurfio par ac adeiladu nyth ac yn y blaen. Does ryfedd fod pobl yn gwirioni efo nhw.
Yn ddiweddar daeth tipyn o bryder i staff y Gymdeithas Gwylio Adar a'r gwirfoddolwyr pan glywsant y bydd rhaid darganfod safle newydd i'r Ganolfan Wylio sydd ar lan y Glaslyn.
Mae caniatad cynllunio Cyngor Gwynedd i'r safle'n dod i ben yn 2008 ac ni chaiff ei adnewyddu oherwydd bod Rheilffordd Ucheldir Cymru yn rhy agos ac yn rhy beryglus i'r cyhoedd.
Mae'r RSPB yn awyddus i ddarganfod safle newydd gan i'r holl fenter fod yn gyrnaint o lwyddiant.
Dymunwn ninnau'n dda iddynt yn eu hymchwil.
|