Un o longau'r Port a adeiladwyd yn 1874 oedd yr Owen Morris. Am 17 mlynedd croesodd Fôr yr Iwerydd lawer gwaith. Yn 1891 aeth a llwyth o bysgod wedi eu halltu o arfordir Labrador yng Nghanada i Genoa yn yr Eidal. Yno llanwyd hi â balast i deithio tua thre'. Roedd hen ddathlu pan gyhoeddwyd y dylai gyrraedd adra yn y Port erbyn y Nadolig. Ar ôl mordaith o 2000 o filltiroedd roedd un bore Sul ym mis Tachwedd wedi angori yn agos i geg yr afon Glaslyn ac yn debygol o groesi'r bar ar y llanw nesaf. Gweklodd un o griw bad achub Cricieth, J E Williarns, hi pan oedd ar ei ffordd i'r capel. Ond yn ystod yr oedfa cododd storm enfawr. Cafodd y saint andros o drafferth i gerdded i'w cartrefi oherwydd rhyferthwy'r gwynt a'r glaw. Meddai J E Williarns wrth ei wraig, 'Gwna ginio'n sydyn. Rwy' n ofni y bydd Y Scwner mewn helbul toc. Y mae mewn balast ac fe gaiff drafferth fawr i osgoi cael ei hyrddio tuag at glogwyni'r Greigddu.' Daeth yr alwad ddechrau'r prynhawn. Rhedodd gwŷr a gwragedd i'r traeth i helpu i lansio'r bad achub (y Caroline). Ar y gair cododd y criw eu rhwyfau a mentro trwy ganol y tonnau enfawr. Ymladdasant eu ffordd dros ymchwydd cynddeiriog y cefnfor i ddannedd y gwynt ac yna ymdrechu i gyfeiriad yr Owen Morris. Gwelsant fod hwyliau'r Owen Morris yn yfflon, ei bod wedi colli ei hangor ac yn cael ei sgubo tua'r dŵr bas. Llwyddwyd i weithio'r bad achub yn ddigon agos at ochr y llong am ychydig eiliadau, fel y llwyddodd tri o'r criw i neidio i'r cwch. Rhwyfwyd y bywydfad ar frig y tonnau i geisio mynd eto at ymyl y llong ddrylliedig. Achubwyd gweddill y criw a'u cario'n ddiogel i'r lan yng Nghricieth yn sŵn bloeddio gorfoleddus y gwylwyr. Brysiodd torf i draeth y Morfa. Pe buasai'r llong wedi cael teithio ychydig yn nes i Borthmadog buasai wedi cael ei thaflu ar draeth meddal melyn. Ond cael ei hyrddio ar glogwyni'r Greigddu oedd ei thynged. Gyda phob ton morthwyliwyd hi gan rym y môr ar ymylon creigiog yr ogofâu. Canodd ei chloch yn felancolaidd a malwyd yr Owen Morris yn deilchion. Deallaf fod sgerbwd y llong yn dod i'r golwg weithiau yn y Greigddu ar ôl storm enfawr. Cynlluniwyd a cherflunwyd y sedd drawiadol a'r bwa uwchben gan Dominic Clare o Lanfrothen. Y mae sedd gyfatebol ym mhen arall y daith beicio yn y Bermo. Talwyd am y gwaith gan Gynulliad Cymru o dan Gynllun Datblygu Lleol Arfordir Ardudwy er cof am yr Owen Morris a dewrder criw bad achub Cricieth yn 1891. Gallwch ddarllen yr hanes yn llawn yn 'Immortal Sails' Henry Hughes. Hoffwn ddiolch yn gynnes i Arwyn Edwards, Siop Gynnau, Penrhyn am wneud y gwaith ymchwil brwdfrydig. M.L.
|