Dyna'r deunydd crai ar gyfer dwy sioe fythgofiadwy a lwyfannwyd yn ardal Yr Wylan yn ystod mis Tachwedd.
Ar ddechrau'r mis tro
Ysgol Ardudwy oedd hi gyda chynhyrchiad unigryw o 'Annie'.
Ddiwedd y mis heidiodd y tyrfaoedd i Ysgol Eifionydd ar gyfer cyflwyniad gwefreiddiol o 'Nôl i'r Wythdegau'.
Er bod cefndir hanesyddol y naill sioe wedi'i gosod yng nghanol dirwasgiad tridegau'r
ganrif ddiwethaf a'r llall mewn cyfnod o lawnder economaidd yr wythdegau cyfnod MC Hammer, y Teenage Mutant Ninja Turtles a Chiwb Rubik roedd yna lawer iawn yn
gyffredin rhwng stori'r ddwy sioe hefyd.
I ddechrau mae 'Annie' a 'Nôl i'r Wythdegau' wedi'u lleoli yn yr Unol Daleithiau. Mae yn y ddwy ddrama gerdd fel ei gilydd ganeuon cofiadwy a chwibanadwy, ac maent yn ymwneud ag ymdrechion unigolion ifanc
i drechu rhwystrau bywyd er mwyn gwireddu
breuddwyd.
Chwilio am ei rhieni wna 'Annie'; chwilio am serch y ferch drws nesaf wna Corey Palmer yn 'Nol i'r Wythdegau'. Ofer fu ymgais y ddau ond, yn
nhraddodiad pob stori gwerth chwil, maent ill
dau'n ennill y dydd yn y diwedd drwy ganfod hapusrwydd amgen sydd lawn mor foddhaol.
Roedd gan lwyfannu'r cynyrchiadau 'Annie' a 'Nôl i'r Wythdegau' lawer o nodweddion sy'n gyffredin yn ogystal.
Roedd yna gast
anferthol o hyd at gant o ddisgyblion
brwdfrydig a thalentog yn y naill sioe a'r llall.
Mae'n amlwg fod gan Ysgol Ardudwy
ac Ysgol Eifionydd ddisgyblion unigol
hynod ddawnus sydd a'r gallu amheuthun o
gyfuno gair, can a dawns.
Mae'r disgyblion
gafodd y prif rannau sef Nest Aneurin o
Ysgol Ardudwy a Llyr Gwynedd o Ysgol
Eifionydd yn haeddu pob canmoliaeth am eu presenoldeb a'u perfformiadau yn eu cyfanrwydd.
Roedd y ddau mor gyfangwbl
naturiol ar lwyfan.
Roedd gan gynyrchiadau'r ddwy ysgol hefyd fandiau
byw a lwyddodd i roi naws a chynnig cyfeiliant nodedig i'r cyfanwaith.
Ond Ysgol
Ardudwy'n unig fentrodd gynnig rhan yn eu sioe i gi, a thrwy drugaredd ymatebodd hwnnw i'w gyfrifoldeb yn rhyfeddol!
Yr athrawon fu'n gyfrifol am yr hyfforddi ac am hynny mae gan y ddwy ysgol le i ddiolch am eu hymroddiad.
Nid ar chwarae
bach mae troi disgyblion ifanc yn actorion a
chantorion mor ddeheuig.
Maent i'w llongyfarch yn fawr ar eu llwyddiant. Melys moes mwy!
A.G.