Y gamp, mewn gêm yfed yn y dafarn, oedd gafael ynddo ag un llaw, ac yfed ei lond o gwrw ar un llwnc, hynny yw, heb gymryd gwynt. Y wobr, wrth gwrs oedd cael y ddiod am ddim, o fethu byddai raid talu dwbl pris y cwrw. Wedi i Walker Jones, yn yr 1880au werthu'i stâd, yn cynnwys Bwthyn Llywelyn a'r Goat, symudodd y teulu i ochrau Caer a mynd a'r Peint Mawr efo nhw, a chollwyd cyfrif ohono. Felly y bu hi, tan y llynedd pan ddaeth Margaret Dunn o Nantgwynant o hyd iddo ar silff ben tan yn Swydd Caint o bob man. Roedd hi wedi darllen hanes y jwg yn llyfr William Williams, Llandygai, ac roedd Edward Casson yn yr 1800au wedi dweud ei fod ef yn cofio'r jwg yn y gwesty. Felly, fe aeth ati ' i geisio ffeindio beth oedd wedi dod ohono, a hynny trwy hel achau. Wedi bod wrthi am ddeng mlynedd daeth o'r diwedd o hyd i un o ddisgynyddion y teulu yn Swydd Gaint. Dyna ei ffonio i holi am y peint. Ni allai gredu, meddai, pan ddywedodd o fod y peint ganddo fo ar ei silff ben tân. Mi oedd y peth yn hollol anghredadwy iddi hi. Darganfu Margaret Dunn fod y jwg o'r un math â'r rhai a wneid yn Wigan a'i fod yn dyddio o tua 1720. Ar un ochr iddo mae'r pennill -Fy llond o gwrw wrth dy fodd, A wna 'mherchennog iti'n rhodd; Os yfi'r cwbwl ar ryw hynt Yn rhwydd mewn llan, heb gymryd gwynt. Ar ochr arall y 'peint' mae llun o afr yn dringo creigiau, ac oddi tano yr ysgrifen 'Y Graig yw fy Nhrigfa', sydd o bosibl yn arwyddair yr hen deulu. Yng Nghaint hefyd daeth Margaret Dunn ar draws hen gleddyf a arferai fod ar fwrdd wrth ochr y peint yn y dafarn. Y stori a adroddid oedd mai'r cleddyf hwn a ddefnyddiodd Llywelyn i ladd ei gi, Gelert. Daethpwyd o hyd i'r cleddyf yn wal rhan o Bwthyn Llywelyn tra'n ei adnewyddu tua 1800. Mae'r cleddyf yma'n hen, yn dyddio rhwng 1680 a 1700, ac mae'r carn pres yn debyg iawn i'r rhai a wneid yn yr Iseldiroedd. JRJ
|