Daeth Owain yn gyntaf yng nghystadleuaeth nofio yr Urdd ym Mangor mewn dwy ras ac aeth ymlaen i gynrychioli Rhanbarth Eryri yng Ngala Nofio Genedlaethol yr Urdd yn Abertawe. Daeth yn seithfed yn y rownd derfynol 50m nofio cefn a thorrodd 5 eiliad o'i amser personol gorau gan orffen mewn 41.78 eiliad. Mae Owain yn aelod o glybiau nofio Porthmadog, Eryri a Chaernarfon ac yn cystadlu'n rheolaidd gyda Chlwb Caernarfon. Enillodd chwe medal aur yng Ngala y Clwb ddiwedd y flwyddyn, a chael tlws am fod y nofiwr gorau yn ei oed (11 oed). Bu yn Abertawe i'r Pwll Nofio Cenedlaethol fis Hydref diwethaf mewn cystadleuaeth nofio dan nawdd y Cynulliad Cenedlaethol. Cafodd ei ddewis am yr ail dro i dîm Gwynedd, 7 merch a 7 bachgen mewn ras gyfnewid yn erbyn 11 tîm trwy Gymru. Daeth Gwynedd yn ail a cholli i Gaerdydd o 10 eiliad. Cafodd pawb o'r tîm fedal arian a chrys-T i gofio'r achlysur. Rhaid wrth ymarfer rheolaidd i gadw ei hun yn ffit a bydd yn mynychu sesiwn ymarfer ddwy waith yr wythnos yng Nghlwb Nofio Caernarfon, a thair i bed air gwaith yr wythnos ym Mhorthmadog. Dalier ati Owain!
|