Deunaw oed yw Nia ac mae hi yn byw hefo'i rhieni a'i chwaer Sara ym Mhorthmadog. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Eifion Wyn ac Ysgol Eifionydd ac yna yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, Pwllheli lle bu am ddwy flynedd yn dilyn cwrs 'Plentyndod Cynnar'.
Mae hi rŵan yn gweithio dros dro yn Ysgol Cefn Coch, Penrhyndeudraeth fel cymhorthydd dosbarth. Bob penwythnos bydd Nia tu ôl i gownter Siop Pike lle mae ei gwên naturiol a'i pharodrwydd i helpu pawb yn boblogaidd iawn hefo'r cwsmeriaid.
Gobaith Nia yw y bydd hi fel Miss Porthmadog yn gallu helpu pobl yr ardal i gydweithio er lles y gymuned ac mae hi yn edrych ymlaen at gael cyfle i gynrychioli'r dref.
Mae Ffrindiau Port eisoes wedi gweithio'n galed iawn i gael goleuadau ar gyfer y Nadolig ac mi fuasai Nia wrth ei bodd yn gweld mwy o weithgareddau yn y dref fel carnifal a gŵyl
arbennig a mwy o gyngherddau ac adloniant fel 'Pasiant Port'. Mae hi yn llawn brwdfrydedd ac yn awyddus iawn i weithio'n galed a gwneud ei gorau i Borthmadog. Pob lwc iddi - mae hi yn
haeddu cael ein cefnogaeth.
|