Un a fu yn gwasanaethu ardal eang am 32 o flynyddoedd.Yn 73 oed, roedd Michhael Tomkins wedi dioddef salwch blin dros nifer o fisoedd, a bu farw ar ddydd Llun y Pasg. Roedd wedi ymddeol o'i swydd fel offeiriad plwyf ym Mhorthmadog, Cricieth a Beddgelert fis Rhagfyr diwethaf.
Cyfeiriodd y Chwaer Mary O'Callaghan, oedd wedi cydweithio â Michael Tomkins am 30 o flynyddoedd ym Mhorthmadog, fel offeiriad arbennig iawn, yn gwasanaethu ei blwyfolion gydag urddas a hyd eithaf ei allu.
Meddai, 'Roedd y Tad Tomkins yn ŵr mawr iawn, mawr o gorff, mawr o ran meddwl a chalon, roedd hefyd yn gawr hynod o dyner bob amser yn mynd allan o'i ffordd i geisio cynnal pontydd, gan ymestyn cariad a thosturi i bawb oedd angen cymorth.
'I'w blwyfolion Catholig roedd ei ymrwymiad i'w swydd yn arbennig. Ni fyddai neb oedd wedi troi ato am gymorth yn ei adael heb deimlo yn gryfach i wneud yn well. Roedd ei amynedd a'i ostyngeiddrwydd yn anhygoel. Pa bynnag orchwyl oedd yn ei wynebu yn sicr o gael ei chario allan yn orfanwl.
'Er mai un o Lundain oedd yn wreiddiol, roedd bob amser yn llawenhau yn y ffaith ei fod wedi llwyddo i ddysgu Cymraeg. Roedd yn caru Cymru fel ei wlad fabwysiedig, yn enwedig ei hiaith, ei diwylliant a'i chân.
'Roedd yn ffyddlon i'r Seintiau Cymreig, yn arbennig felly Dewi Sant a'r Sant John Roberts, yn wreiddiol o Drawsfynydd.
'Yn agos iawn at ei galon oedd ei gysylltiadau eciwmenaidd gyda chapel ac eglwysi lleol, bob amser yn awyddus i gydaddoli o fewn ei allu.
'Bu iddo ymweld â Phalestina lawer tro, bob amser yn dychwelyd gyda chyflenwad o ddŵr o'r Iorddonen, a'i ddefnyddio wedyn ar gyfer bedydd.
'Roedd ganddo gariad mawr at blant. Pwy allai anghofio amdano yn mynd o amgylch y plwyfi yn dreifio'r bws mini i'w cario i'r eglwys ar gyfer eu sesiynau crefyddol.
'Yn ymadawiad Michael Tomkins mae yna oleu cryf wedi diffodd yn yr ardal hon. Os gallai siarad a ni yn awr yn sicr ei eiriau fyddai: Byddwch Hapus, Cadwch y Ffydd.'
Ychwanegodd y Canon Peter Brignall, ar ran yr Esgob Edwin Regan, 'Roedd Michael yn ddyn mawr mewn cymaint o ffyrdd, yn was ffyddlon i gymaint o bobl. O fewn ei blwyfi, Esgobaeth Wrecsam a phobl Cymru yn gyffredinol.
'Roedd yn esiampl berffaith o ffydd a gweddi, brawdoliaeth a chroeso, ymroddiad a gwasanaeth.'
Yn ôl Ficer Porthmadog, y Parch. Aled Jones-Wllliams, 'Byddwn yn cofio am Michael am nifer o bethau - roedd yn ddyn o'r dref ac am y dref, ac oherwydd hynny llwyddodd i dorri i lawr rwystrau enwadol.
'Gyda'r diweddar Archesgob Cymru, Alwyn Rice Jones, pan oedd yn Ficer Porthmadog bu'n arloeswr ar sicrhau prosiect eciwmenaidd o gyd-gymuno.' Ychwanegodd y Gweinidog Presbyteraidd, y Parch. Gareth Edwards, 'Roedd Michael Tomkins yn gyfaill cywir, un y gallwn ddibynnu arno bob amser. Roedd yn berson eangfrydig oedd yn dangos parch at ein diwylliant fel cenedl. Roedd hefyd yn parchu traddodiadau eglwysig oedd yn wahanol i'w draddodiad ef ei hun.'
'Enillodd Michael Tomkins barch ac edmygedd pawb, ac mae hiraeth mawr gennym ym mhob rhan o fywyd y dref ar ei ôl. Mynnodd fod yn un ohonom. Bu cydweithio ag o yn bleser ac yn hyfrydwch.'
Emyr Williams