Ydi, mae Pwyllgor Rheoli Canolfan Prenteg bellach wedi codi £140,000 ac o fewn £110,000 i gyrraedd eu targed o chwarter miliwn o bunnau.
Gyda Gwilym Evans yn gadarn ei weledigaeth a'i frwdfrydedd wrth y llyw, Gwyneth Owen, yr ysgrifennydd; Gret Pritchard, y trysorydd a gweddill aelodau'r tîm yn gefn iddo, maent bellach wedi bod wrthi'n ddyfal ers dros wyth mlynedd ac mae'r freuddwyd i sefydlu'r ganolfan yn prysur droi'n ffaith.
Dywedodd Phyllis Evans, aelod o'r pwyllgor fu wrthi'n cwblhau'r ffurflenni diri: 'Mae'r dasg o godi arian, paratoi cais a chael caniatâd cynllunio gan y Parc Cenedlaethol a chydgysylltu popeth wedi golygu gwaith sylweddol iawn i ni. Mae hefyd wedi tynnu pawb yn y pentref at ei gilydd ac wedi ein cryfhau fel cymuned. Rydym eisoes wedi codi dros £20,000 yn lleol ac mae'r cymhorthdal hwn gan Raglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol y Cynulliad wedi bod yn hwb sylweddol iawn i ni.'
Bydd y ganolfan yn cynnwys neuadd, cegin, toiledau a maes parcio a bwriedir cynnal pob math o weithgareddau ynddi yn ogystal â'i llogi i gwmnïau a sefydliadau sy'n cynnal cyfarfodydd, sesiynau hyfforddi neu gynadleddau. Pa le gwell i fynychu cyfarfod nag yng nghanol ysblander golygfeydd arbennig Dyffryn Madog?
Mewn cyfnod pan y clywn am amddifadedd cefn gwlad a chymunedau'n chwalu, rydym ni, ddarllenwyr Yr Wylan yn llongyfarch cymuned Prenteg ar eu gweledigaeth a'u brwdfrydedd. Rhagorol! Edrychwn ymlaen at weld y gonglfaen gyntaf yn gadarn yn ei lle.
Unrhyw gyfraniadau i sylw Gwyneth Owen, Prenteg.
|