Daeth tyrfa dda ynghyd i'r Ganolfan, Porthmadog ar nos Lun, Medi 27 i glywed anerchiad gafaelgar gan Bruce Kent, yr ymgyrchydd heddwch adnabyddus. Cafwyd ganddo alwad glir ar inni symud ymlaen gam wrth gam at y nod o ddiarddel rhyfel fel ffordd o ymateb i wrthdaro. Pwysleisiodd fod cael gwared o ryfel gyda'i fwystfileiddiwch a'i wastraff afradlon yn gorfod bod yn flaenoriaeth wrth inni geisio byd diogel a dedwydd. Cawsom ein hatgoffa ganddo o'r cynnydd a fu mewn llawer maes yng nghwrs y blynyddoedd. Nid cam bychan oedd i wragedd ennill yr hawl i bleidleisio. Cam sylweddol ymlaen oedd gwahardd y defnydd o ffrwydron tir ac y mae'r symudiad at sefydlu llys rhyngwladol i farnu troseddau yn erbyn dynoliaeth yn ddatblygiad arwyddocaol. Mae gwaith mawr yn aros i'w gyflawni. Rhaid dwyn pwysau ar y gwledydd sy'n meddu arfau niwclear i fod o ddifrif yn eu cytundeb i ddiarfogi yn hytrach na bodloni ar rwystro gwledydd eraill rhag sicrhau'r arfau hyn. A rhaid gwrthsefyll bwriadau ynfyd yr Unol Daleithiau i ddatblygu arfau niwclear ar gyfer y gofod. Dylid cofio hefyd am bwysigrwydd yr ymgyrch bresennol i atal gwerthiant arfau llaw sydd yn y pen draw yn peri mwy o ddioddefaint na'r arfau trymach. Soniodd Bruce Kent am y modd y mae ei gymdogion mewn ardal yn Llundain yn gallu cyd-fyw'n heddychlon er eu bod yn gwahaniaethu o ran hil a diwylliant. A bwrw bod anghytundeb yn codi rhyngddynt nid oedd hynny yn arwain neb i ymosod a lladd eraill. Ein tasg ydyw sicrhau bod y math o oddefgarwch a didreisedd sydd . mor gyffredin yn ein cymunedau yn cael ei feithrin ym mherthynas gwlad a gwlad, hil a hil, trwy'r byd. Er mwyn i'n hoes symud o ddiwylliant trais at ddiwylliant cyd-fyw mae'n bwysig fod astudiaethau heddwch yn cael eu priod le mewn cyfundrefnau addysg. Cafwyd nifer o gwestiynau a sylwadau diddorol yn dilyn yr anerchiad a chafodd Hywel Williams, AS gyfle i apelio am gefnogaeth. i'r bwriad i uchel-gyhuddo'r Prif Weinidog am y modd y tywysodd Prydain i ryfel Irac. Trefnwyd cyfarfod gan Gell Dwyryd a Glaslyn o Gymdeithas y Cymod a'i gadeirio'n ddeheuig gan yr Athro Richard Edwards, Nanmor.
|