Llongyfarchiadau didwyll i Elen Hydref ar gael ei dewis i berfformio yng Nghyngres Delynau'r Byd. Hi oedd yr unig un drwy wledydd Prydain i gael ei dewis i chwarae mewn cyngerdd ieuenctid o flaen llygaid a chlustiau enwogion byd-eang y delyn.
Pump oedd yn perfformio yn y cyngerdd arbennig hwn, sef dwy ferch o'r Amerig, un o Rwsia, un o Dwrci ac Elen yn cynrychioli Cymru.
Mae Elen bellach yn ddisgybl yn Ysgol Gerdd Purcell, Llundain ers blwyddyn, a chafodd ei dewis gan yr ysgol i ganu'r delyn mewn siambr yn Neuadd Wigmore, Llundain ym mis Ebrill. Mae'r neuadd hon gyda'r enwocaf trwy'r byd ar gyfer cerddoriaeth siambr.
Yn sgîl ei llwyddiant yng Nghystadleuaeth Cerddor Ifanc Cymru Texaco 2003 cafodd wahoddiad i roi perfformiad yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd fis Mehefin diwethaf. Bu hefyd yn perfformio ar Lanfa Canolfan Mileniwm Cymru yn ystod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a hefyd adeg agor y Ganolfan honno fis Tachwedd diwethaf.
Yn ystod ei gwyliau ysgol ymunodd a Cherddorfa Ieuenctid Prydain am y drydedd flwyddyn. Bu'n chwarae mewn neuaddau enwog gan orffen cwrs yr haf mewn prom yn Neuadd Albert, Llundain. Ar ddiwedd ei gwyliau haf, ymunodd gyda'i chyd Gymry ar gwrs Cerddorfa Ieuenctid Gogledd Cymru.
Bellach, mae Elen yn ôl yn Ysgol Purcell lle bydd yn sefyll arholiadau Lefel A yr haf nesaf mewn Cerddoriaeth, Ffrangeg ac Almaeneg.
Llongyfarchiadau teilwng iawn ar dy lwyddiannau gan ddarllenwyr bro'r Wylan.
|