Rhoddodd sylw i
wahanol ddadleuon haul-ganolig a dyn-
ganolig yn y maes hwn.
Soniodd hefyd am Alfred Russell Wallace a'i theori am esblygiad ac am y ffaith ei fod wedi rhagflaenu Charles Darwin o ychydig gyda'i syniadau.
'Cerrig' oedd testun Dewi Hudson Jones ar 16 Chwefror.
Mewn papur trwyadl aeth ati i gategoreiddio nifer o wahanol feini megis meini gosod, meini hynafol a meini terfyn gan dynnu sylw at eu harwyddocâd hanesyddol a chymdeithasol yn ogystal a sôn am yr agwedd ddaearegol iddynt.
Mwynhawyd cinio Gŵyl Dewi rhagorol yn y Clwb Golff ym Morfa Bychan unwaith eto.
Y siaradwr gwadd eleni oedd Dylan Iorwerth. Mewn araith ffraeth, siaradodd am
gyfathrebu gan ddadansoddi y modd y mae
newid wedi bod, ac yn dal i ddigwydd, yn y cefndir cyfeiriadol sydd i'r cyfathrebu rhwng pobl yn ein cymdeithas.
|