Mae'r Nadolig yn gyfnod anodd i blesio pawb - ond dyna yw nod Dudley Newbery gyda'i lyfr newydd gwefreiddiol o rysetiau, fel mae'r isdeitl prydau i blesio pawb yn ei awgrymu. A phrin bod amheuaeth y bydd y lluniau a'r dylunio llawn-lliw yn plesio pawb mewn llyfr sy'n cymharu'n hynod ffafriol â llyfrau cyfatebol sêr mawr Lloegr. Mae'r dewis o rysetiau hefyd yn wefreiddiol a gwahanol, ac, fel arfer, mae Dudley wedi cadw at symlrwydd a blas wrth gyflwyno'r rysetiau mewn arddull arloesol o syml, a fydd yn sicr o blesio pawb! Llyfr i blesio darllenwyr cofiannau fydd cofiant syfrdanol y canwr o Solfach, Meic Stevens. Disgrifiwyd y gyfrol eisoes fel hanangofiant mwya'r flwyddyn o Golwg a disgrifiodd Lyn Ebeneser y gyfrol fel bwrlwm o hunangofiant syn gignoeth yn ei onestrwydd, - a phrin fod gan unrhywun yng Nghymru fwy o straeon iw hadrodd na Meic oi fywyd ym Manceinion, Caerdydd, Llundain a Solfach. Ond person arall sydd â thipyn iw ddweud yw Angharad Tomos syn llawn sylwadau craff a difyr mewn casgliad oi cholofnau gorau syn cael ei gyhoeddi ar gyfer y Nadolig y Byd ar Betws. O ran nofelau dros yr wyl, beth gwell na nofel hanesyddol swmpus Martin Davis, Os Dianc Rhai , syn olrhain hanes yr Ail Ryfel Byd ym Mhen Llyn, Rhydychen ac Ewrop, neu nofel ddifyr llawn hiwmor a hwyl gan Mihangel Morgan, Croniclau Pentre Simon, sydd unwaith eto wedi arloesi ac arwain y ffordd ym myd ffuglen Gymraeg. Llyfrau'r Plant I gadw'r plant yn dawel dros yr wyl, beth gwell na llyfr lliwio newydd Elwyn Ioan, Fal y Fan Fioled gyda thestun doniol Tegwyn Jones, neu lyfr diweddaraf y gyfres Alun yr Arth gan Morgan Tomos lle mae'n mynd i drafferthion gyda'r dyn eira. Ac o ran cyffro llawn-lliw a stori am deithio rownd y byd i blant bach, prynwch Balwn Bleddyn - y diweddaraf yng nghyfres Llyfrau Llawen Y Lolfa gan Elena Gruffudd. Ac ar gyfer y parti Nadoligaidd, beth gwell na llyfr cerddoriaeth cyntaf erioed John ac Alun gydag alawon a chordiau, a geiriau llawn i glasuron fel 'Chwarelwr,' 'Gafael yn fy llaw' a Penrhyn Llyn'. Gwledd o lyfrau i blesio pawb! Cliciwch yma i ddarllen am Lyfr y Flwyddyn 2004.
|