Ar y rhaglen roedd profi atyniadau y ddau barc thema sydd gan gwmni Disney yn Ewrop, sef Disneyland Paris a Disney Studios; esgyn Twr Eifel; gweld adeiladau enwocaf y dinas o fwrdd un o'r Bateaux Mouches ar y Seine; ymweld ag ardal Montmarte; a dweud 'Bonjour' wrth y ddau gymeriad Asterix ac Obelix ym Mharc Asterix. Cafwyd taith i'w chofio, gyda nifer o'r criw yn dod yn 'connoisseurs' ar reidiau iasol a heriod rhaeadrau. Profwyd aml ddanteithion a dihysbyddwyd sawl siop wrth chwilio am gofroddion i nodi'r daith. Gwelwyd rhyfeddodau lu a rhyfeddwyd at ysblander cyfoeth pensaernïol y brifddinas Ffrengig. A do, mi roddwyd cynnig ar gyfathrebu â'r brodorion yn eu hiaith eu hunain a chael gwefr o lwyddo. Gwasgwyd llawer i mewn i gyfnod cymharol fyr a blin iawn ond bodlon oedd y teithwyr a gyrhaeddodd yn ôl i Harlech gyda'r wawr ar y pedwerydd dydd. Elfed ap Gomer
|