91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Wylan
Gwalcy y pysgod Gweilch y pysgod
Ebrill 2010
Fe wna i sôn wrthych chi am un nyth arbennig iawn sydd gyda ni yng Nghymru.

Yr unig nyth o'i fath yn ein gwlad.

Pob gwanwyn ers 2004 mae yna bar o adar nodedig yn teithio'r holl ffordd o orllewin Affrig i bont Croesor ger Tremadog i fagu 2-3 o gywion a fydd yn tyfu i fyny i fod yn Weilch y Pysgod.

Mae Gwalch y Pysgod yn ffyddlon i'r un nyth ac i'r un partner flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Maent yn dechrau nythu rhwng eu trydedd a'u pumed flwyddyn.

Mae'r nyth ei hun yn adeiladwaith mawr wedi ei wneud o ganghennau a brigau a man frigau wedi ei leinio a mwsogl, rhisgl a gwair tu mewn.

Fe gymer 14-21 o ddiwrnodau i orffen y nyth sy'n 120-150 cm ar draws a 50-60 cm o ddwfn.

Ar ôl blynyddoedd o'i ddefnyddio - i fyny i 20 blwyddyn, gyda'r adar yn ychwanegu ato bob tro, gall orffen yn 150-200 cm o ddyfnder.

Yn 2004, pan ddarganfuwyd gyntaf y gweilch yng Nghymru, disgynnodd y nyth mewn ystorm a methwyd magu cywion y flwyddyn honno.

Darganfuwyd fod top y goeden wedi pydru ac ymgymerodd Y Gymdeithas Gwarchod Adar (RSPB), gyda help llaw plant yr ardal, i lifio'r darn brau i ffwrdd ac adeiladu a gosod platfform o goed yn ei le.

Bu raid disgwyl blwyddyn i weld os byddai'r gweilch yn cymryd at y platfform dynol.

Yn 2005 dychwelodd y pâr a mabwysiadu'r nyth newydd heb ddim trafferth!

Dyna oedd rhyddhad a llawenydd i bawb ohonom! Magwyd dau o gywion yn llwyddiannus y tymor hwnnw.

Y safle gorau i nyth y gwalch yw i fyny ar dop coeden dal megis pinwydden.

Ac yn un o'r rhai talaf hyn y dewisodd y pâr cyntaf yn 2004 sef pinwydden 30 medr o daldra, cyn y llifwyd y top i lawr i 28 medr.

A pham Traeth Mawr a phont Croesor, medde chi? Wel yn syml, mae yma afon Glaslyn sy'n dylifo'i glannau tuag at Nanmor ac yn rhedeg wrth y goeden bin ac yn ardderchog am fwyd i'r adar.

Mae'r môr ym Mhorthmadog a llynnoedd ar lethrau'r Wyddfa a'i chriw.

Mae'r safle mor anhygoel yn wir fel y bu bygythiad gan weilch eraill a bu raid i'r pâr amddiffyn ei nyth rhag y dieithriaid.

Yn nechrau Ebrill bydd yr iâr yn dodwy 2¬30 wyau gwyn a brown. Yr iâr fydd yn gori ar y wyau ar ben ei hun tra mae'r ceiliog yn pysgota am fwyd iddi hi a'r cywion pan ddônt.

Y nyth a dyffryn godidog y Glaslyn ydi'r unig fyd a wel y cywion o'r diwrnod eu deor dros 4,000 0 filltiroedd ac eithrio'r fenyw sydd yn gaeafu ym Mozambique sydd dros 6,000 0 filltiroedd iddi. Byddant yn treulio 45 o ddiwrnodau yn teithio ar gyfartaledd o 160 milltir y dydd.

gan Ceri Mair, wyres T. Hefin Williams


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý