Daeth cynulleidfa fawr ynghyd yn y Ganolfan i fwynhau cyngerdd cofiadwy o safon arbennig iawn yng nghwmni Mary Lloyd Davies, Llanuwchllyn; Glyn Williams, Borth-y-Gest, a chor meibion o 47 o leisiau yn cynrychioli aelodau diwethaf, ac, ar y mwyaf, cyn-aelodau hyn o Gôr Meibion Madog.
Roedd yn achlysur i ddathlu a hiraethu yr un pryd, i lawenhau a thristau hefyd, i gofio a ffarwelio. Ar ôl hanner can mlynedd o ganu a diddanu aeth nifer yr aelodau mor fychan fel nad oedd modd cario 'mlaen a phenderfyniad trist ond anochel oedd i ddod a'r ymarferion i ben.
Ers 1957, pan sefydlwyd y cor dan arweiniad medrus John Watkin Jones, gyda Richard Morgan a Mair Jones Robinson yn cyfeilio, cadwyd y safon a'r traddodiad yn fyw ac yn iach ar hyd y blynyddoedd gan Deio Morgan, Bernard Crosby, a TImothy Hughes fel arweinyddion, gyda Huw Alan Roberts a Judith Sankey yn cyfeilio yn eu tro. Heb anghofio pawb arall a fu'n llenwi'r swyddi fel dirprwyon.
Treuliwyd blynyddoedd llwyddiannus iawn yn crwydro a chanu ledled Prydain gan godi miloedd o bunnau at achosion da a mwynhawyd teithiau dramor i'r Almaen, Iwerddon, a Slofenia yn lled ddiweddar; ac yn hytrach na gadael i hyn oll lithro i ddifancoll penderfynodd Elwyn Jones, Tremadog, wahodd pob cyn-aelod posibl i ymuno mewn cyngerdd o deyrnged a diolchgarwch i nodi'r garreg filltir arbennig hon.
Gwahoddwyd E. Arwyn Morgan i arwain y cor gyda Huw Alan Roberts yn cyfeilio ond bu'n rhaid newid y trefniadau oherwydd nad oedd cyflwr iechyd Arwyn yn caniatau hynny a chytunodd Alan i arwain gyda Glyn Roberts yn gyfeilydd. Roedd yn braf gweld Arwyn yn bresennol ar y noson ac yn amlwg yn mwynhau pob eiliad pan gafodd y cyfle i arwain y cor yn ei ddewis gân, 'Calm is the Sea'.
Gwefreiddiwyd y gynulleidfa gan ddatganiadau'r cor a'r ddau unawdydd gwadd, fel unigolion ac fel deuawd, y naill fel y llall wedi rhannu llwyfan a'r cor ar sawl achlysur o'r blaen, a rhaid diolch yn arbennig hefyd i'r Parchedig Iwan Llywelyn Jones am arwain y noson mor ffraeth a chartrefol yn ei ffordd ddi-hafal ei hun.
Roedd y farn gyffredinol ar ddiwedd y noson yn adlewyrchiad o'r hyn a ddywedwyd yn ei hanerchiad gan Gadeirydd Cyngor Tref Porthmadog, y Cynghorydd Jean Edwards, main un peth yn unig allai ragori ar noson mor fendigedig, sef gweld parhad y côr.
Gellir ei sicrhau y byddai'r ychydig ffyddloniaid sy'n weddill erbyn heddiw yn fwy na pharod i geisio gwireddu hynny, ond rhaid cael llawer rhagor o leisiau cyn mentro eto, felly beth amdani fechgyn?
R. Elwyn Thomas.